Caerdydd yn colli gêm dyngedfennol o dair gôl

5 Ebrill 2014

Caerdydd 0 Crystal Palace 3

Adroddiad Gwenda Richards

Dyma’r gêm roedd yn rhaid i’r Adar Gleision ennill. Fe ddwedodd Ole Gunnar Solskjaer taw hwn fyddai ei gêm fwyaf pwysig fel rheolwr Caerdydd . Ond  fe ddrylliodd y Cymro Tony Pulis a’r  Eryr  obeithion Caerdydd o aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf yn rhacs jibidêrs. Ond mae pum gêm yn weddill – a fel ma’r hen ystrydeb yn ein hatgoffa- ma ffwtbol yn gêm rhyfedd weithiau.!

Sdim dwywaith taw  hwn oedd perfformiad gwaetha’r Adar Gleision eleni. Do, fe gollon nhw 6-3 yn erbyn Lerpwl ond, bythefnos yn ôl, roedd na lygedyn o obaith fod y tîm yn dechrau gwau at ei gilydd; roedden nhw’n  fywiog, ac yn chwarae gyda chynllun cyffroes. Ac fe sgorion nhw dair gôl. Ditto wythnos ddiwethaf yn erbyn West Brom.

Heddiw doedd dim o’r priodoleddau yna  o gwbwl. O’r cychwyn doedd dim arwydd fod yna dactegau clir. Roedd y tîm yn araf a’r chwarae’n llesg. A chyda Palace yn marcio’n dynn , doedd dim cyfle i chwaraewyr canol y cae  greu llawer o gyfleuoedd. Gwthio i fyny’r cau wnaeth Theophile- Catherine, Jordon Mutch a Fraizer Campbell ond heb lawer o fin yn yr ymosodiad pan odd hi’n dod i danio’r gwn. 

Ben Turner yn ymosod i lawr yr asgell chwith

Ben Turner yn ymosod i lawr yr asgell chwith

Wedi ildio naw gôl yn y ddwy gêm ddiwethaf, roedd rhaid tynnhau’r amddiffyn felly allan a Fabio a nôl â Taylor. Er fod Craig Noone yn holliach, dewisodd Solskjaer ddechre da  Wilfried Zaha, a Kenwyne Jones yn partneri Campbell yn y blaen.

Efallai taw’r ffaith nad oedd disgwyl i Gaerdydd ennill yn erbyn Lewpwl wnaeth gynnau’r tân ym moliau’r Adar Gleision bythefnos yn ôl, ond heddiw wnaeth holl ddisgwyliadau’r dorf a’r pwysau arnyn nhw i ennill pwyniau, ddiffodd y tân hwnnw.

Aeth Palace ar y blaen ar ôl hanner awr o ymdrech galed gan y ddwy ochr,  pan naeth  Jason Puncheon ergydio heibio i David Marshall  ar ôl derbyn pass gan Joe Ledley, cyn  chwaraewr Caerdydd,  yn y cwrt cosbi. Draw yr ochr arall  gorfu i gôl geidwad Palace  Julian Speroni arbedio ar ôl i amddiffynnwr Palace benio croesiad Jordon Mutch tuag at ei gôl ei hunan. 

Gôl gyntaf Palace

Gôl gyntaf Palace

Yn yr ail hanner dechreuodd Caerdydd ddeffro ond wrth i ymosodiadau Zaha edwino a peli uchel i gyfeiriad Jones ddod at ddim, fe ddaeth y rheolwr a  Craig Noone a Bellamy ymlaen yn eu lle  a ……. Don Cowie. Nawr beth oedd Caerdydd angen mwy na dim byd arall oedd goliau…. a gyda phob parch nid Cowie yw’r chwaraewr i newid cwrs gêm.  Cafodd Caerdydd 63% o’r meddiant ond Palace wnaeth sgorio nesa drwy droed Ledley ar ôl i David Marshall bwnio peniad  Marouane Chamakh yn glir. Roedd Ledley yno i daro’r bêl yn dwt i’r gôl. Roedd pasio Caerdydd yn echrydus ar brydiau ac er iddyn nhw ennill deg cic gornel chafodd  yr Eryrod fawr o drafferth i’w clirio.

Erbyn ddiwedd y gêm roedd Crystal Palace yn pasio’n dwt a doedd dim syndod iddyn nhw sgorio trydedd gôl ac roedd hi’n un bert ‘fyd. Palace yn gwrth ymosod a Jason Puncheon yn ergydio gyda’i droed chwith i dop y rhwyd, wedi derbyn pas gan Adrian Mariappa. Does dim cywilydd mewn colli ond y modd wnaeth yr Adar Gleision golli, dyna sy’n peri loes.

Ar ôl y gêm fe ddwedodd Soskjaer fod e’n teimlo fod y tîm wedi colli hyder a’u hunan gred…. a ma hwnna’n beryglus i dîm sydd yn brwydro i ddal ei afael ar ei le yn yr Uwch Gynghrair.

Yr wythnos nesa fe fydd OGS yn croesawi aelodau’r Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd i sessiwn Cwestiwn ac Ateb yn y Stadiwm.  Fe fydd Pobl Caerdydd yno i glywed ei weledigaeth a chynlluniau’r clwb i beidio disgyn i’r Bencampwriaeth y tymor nesaf

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma