Branwen Davies: ‘yr her o greu “y ferch berffaith” oedd y sbardun i mi fel ysgrifenwraig’

9 Medi 2013

Mae tair drama newydd yn cael eu datgelu wythnos yma: Mae Rhwng Dau Fyd yn brosiect ar y cyd gan Living Pictures, Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru. Mi fydd y tair – gan Branwen Davies, Meic Povey a Caryl Lewis – yn cael eu cyfarwyddo gan gyfarwyddwyr o dan hyforddiant Elen a Robbie Bowman sy’n rhedeg y cynllun trwy eu cwmni Living Pictures.

Gyda chefndir creadigol amrywiol iawn, mae Branwen Davies nawr yn astudio am doethuriaeth mewn Ysgrifennu Newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Siaradodd Elin Williams gyda Branwen a thrafod sut fath o broses oedd hon i fod yn rhan ohoni, a ceisio canfod mwy amdani hi fel ysgrifenwraig.

Mae’r sioe, neu sioeau, yn dod o dan y thema ‘Rhwng Dau Fyd’. Teitl dy ddrama di yw ‘Gwagle’. A wnes ti defnyddio’r thema yma fel fath o sbringfwrdd ar gyfer syniadau eraill neu defnyddio’r thema mewn ffordd lythrennol?

Roeddwn ni wedi cael y thema ‘Blodeuwedd’ fel dechreubwynt, a gan fod Theatr Genedlaethol wedi gwneud y sioe yn ddiweddar, wnaeth neb gymryd y thema yn rhy llythrennol. Gyda ‘Rhwng Dau Fyd’ mae gen ti ddau fyd: yn amlwg y byd dychymyg, byd ffantasi, byd ysbrydion… ac o’r tair ddrama mae pawb wedi cymryd pethau gwahanol. Beth wnaeth sbarduno fy syniad i oedd creu y ‘Ferch Berffaith’ a beth oedd hynny’n olygu. Mae Daf, y prif gymeriad, yn sgwennu’r person perffaith yma, ond mae’r person yma yn dod yn fyw, ac yn dechrau herio fo. Felly chwarae gyda’r dychymyg wnes i, a gweld lle roedd y dychymyg yn arwain.

Felly wnaeth y sgript newid mewn ffordd fawr trwy’r broses ysgrifennu?

Pan ddechreuais i sgwennu, ro’ ni’n hoffi’r syniad o greu merch ar-lein, ac yn lle bod hi’n gymeriad ffantasi fel Dominatrix, roedd hi jest yn berson cig a gwaed normal oedd isio eistedd gyda Daf ar y soffa a cael take-away. Ond wnes i newid hwnna yn gyfan gwbwl a mynd ar ôl trywydd hollol gwahanol.

Mae tair ddrama fel rhan o’r cynhyrchiad yma – un gan ti, Meic Povey a Caryl Lewis. Ydy’r tair ddrama yn canmol ei gilydd? Oedd eisiau i chi gydweithredu yn greadigol yn ymwybodol neu wyt ti’n meddwl bod pob darn yn hollol wahanol?

shermandirectors©kirstenmcternan-051

Llun © Kirsten McTernan

Da’ ni wedi gweithio yn hollol ar wahan. Dwi ddim yn siwr iawn os ydi’r awduron eraill wedi darllen dramau eu gilydd, ond mae gen ti Elen Bowman sy’n cynhyrchu efo golwg dros y tri darn. Mae Cai Dyfan wedi cynllunio set ffantastig i’r tri ohonyn ni, un sy’n sicrhau lot o bosibiliadau. Da’ ni ddim yn defnyddio’r un props, mae o’n eithaf syml. Mae pawb gyda dau actor, un merch, un bachgen. Wrth tecio, mae nhw wedi ceisio ffeindio ffordd o lifo o ddrama i ddrama.  Drama fi fydd yn mynd gyntaf ar y noson a mae o’n rhyw fath o ddechrau ‘creu’. Wedyn mae drama Meic am gwpwl priod yn chwarae ‘role play’ a ffantasi, felly mae hwnna fel cam nesaf. Wedyn mae drama bendigedig gan Caryl, am ferch sy’n clywed lleisiau. Felly mae’r tri darn yn dilyn ei gilydd yn hyfryd.

A beth am yr awduron? Wyt ti’n meddwl efallai bod pob un ohonoch yn cynrychioli rhywbeth gwahanol?

Ydyn, dwi’n meddwl. Meic yw ‘Y Dramodydd’ mewn ffordd, yn sicr yr un mwya adnybyddus ei genhedlaeth yng Nghymru, a mae’n ffantastig gallu bod ar yr un playbill a rhywun mor brofiadol. Mae Caryl, ella bod hi ddim wedi sgwennu gymaint o bethau i’r llwyfan, felly mae’n creu deinamig gwahanol. Mae gan Meic gymaint o brofiad, Caryl yn brofiadol hefyd, a wedyn fi sy’n dechrau fy ngyrfa fel sgwennwr, a mae’n grêt cael fy rhoi ar yr un llwyfan a nhw.

Mae’r holl brosiect yn un uchelgeisiol iawn: ysgrifennu newydd, cyfarwyddwyr dan hyfforddiant ac amryw o gwmnïau’n gysylltiedig â’r cynhyrchiad. Wyt ti’n meddwl bod y prosiect yn cyrraedd y disgwyliadau? Neu ydy’r peth yn boddi rhywfaint o dan y cydweithio?

Dwi’n meddwl bod y gair ‘cydweithredu’ yn fath o ‘buzz word’ ar gyfer theatr, a mae rhai pobl yn dweud bod nhw mond yn cydweithredu i ddefnyddio adnoddau cwmnïau eraill ac yn y blaen, ond dwi’n meddwl bod o’n fwy na hynny. Mae’n bwysig i gydweithredu, gan fod ni’n genedl fach. Mae’r ffaith bod Theatr Genedlaethol ynghlwm yn rhoi statws iddo, mae’r Sherman lle bydd y dramâu yn cael eu perfformio, a wedyn Living Pictures gyda’r gwaith ffantastig i helpu cyfarwyddwyr newydd. Mae’r cyfleoedd y cwrs mae nhw’n rhedeg yn anhygoel. Mae’r cyfarwyddwr dwi wedi cael, Wyn Mason, yn ffantastig. Hefyd, da ni fel awduron wedi gallu bod yn rhan hefyd. Dwi’n meddwl pan mae’n dod yn bryd i’r drafft cyntaf fod yn barod a mae pawb yn dod yn rhan o’r broses, mae’n gallu bod yn hectic iawn. Mae pawb efo syniadau eu hunain, mae pawb isio pethau gwahanol. Mae Sherman isio rhywbeth sydd yn rhyw faint o hyd, wedyn mae Theatr Genedlaethol isio cynnyrch o safon uchel, wedyn mae Living Pictures isio gwarchod y cyfarwyddwyr… mae o’n eitha’ ‘overwhelming’, yn enwedig i’r cyfarwyddywr sydd reit yn y canol. Mae’r cyfarwyddwyr wedi bod yn astudio am flwyddyn ac yn gweld hyn fel eu siawns nhw mewn ffordd, ond i ni fel awduron, ein siawns ni yw hi hefyd. Mae’n ddifyr pan mae gymaint o leisiau, gymaint o farn a pawb isio cyfrannu i’r broses.

Rhwng Dau Fyd

Rhwng Dau Fyd

Mae Wyn yn dod o gefndir ffilm a theledu, a mae o’n meddwl lot mewn delweddau. Am flwyddyn da’ ni wedi bod yn sgwrsio’n agos, hel syniadau. Wedyn mae’r sgript yn dod i bwynt gorffenedig, a ro ni’n meddwl bod o’n bwysig mynd mewn i ymarferion a sicrhau bod y sgript yn cael ei pharchu. Dwi di torri un-ar-ddeg tudalen o’r sgript. Wnes i dorri’r geiriau allan o un olygfa a nawr mae’r holl beth yn weledol. Mae’n ddifyr i fi hefyd, achos nes i hyfforddi fel actores, felly mae isio i fi ‘ofyn i’r het sgwennu’ fel petai, a jest meddwl am hwnna. Dwi di bod yn hollol agored wrth gydweithio gyda Wyn, yn rhoi cyfle iddo fo hefyd. Mae o’n arbrofi, mae o’n chwarae. Ar ôl wythnos nes i adael yr ymarferion a gadael llonydd iddo, ond dal yn trafod bob nos. Mae’r berthynas wedi bod yn grêt. Dwi di dysgu lot am ffyrdd gwahanol o weithio, a dysgu pryd i sefyll fyny dros fy syniadau.

Ti’n astudio ‘Ysgrifennu Newydd’ yn Aberystwyth. Ydy hyn yn effeithio ar y broses ysgrifennu i ti?

shermandirectors©kirstenmcternan-054

Llun © Kirsten McTernan

Mae’r ddrama yma yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’m PhD, a’r cwestiwn yw ‘Ydy sgwennu newydd yn gallu bod yn broses cyd-weithredol?’ Ond ro ni’n arfer gweithio i Sgript Cymru a wedyn Sherman Cymru, a dwi’n gwybod cyn lleied o sgriptiau gwreiddiol Cymraeg sydd allan yna. Mae lot o sgriptiau Cymraeg yn eithaf difrifol, achos bod pobl yn teimlo bod rhaid i nhw fod yn ddramataidd iawn, ond ro ni isio creu rhywbeth ysgafnach, hwyliog. Welais i’r cyfle fel sialens; ro’ ni isio arbrofi, ro’ ni isio chwarae. Mae’r prif gymeriad yn rywun sydd ddim yn  gallu sgwennu, a dwi di rhoi fy hun mewn i’w sgidiau. Mae fy llais i fel sgwennwr wedi dod trwy lais Daf, a ro’ ni jest isio bod yn bryfoclyd gyda’r syniad. Dwi ddim yn cymryd fy hun yn rhy ddifrifol. Ro ni isio’r actorion gael hwyl hefyd. Dydy pawb ddim yn mynd i gael yr un peth allan ohono fo, ond gewn ni weld ar y noson!

Dilynwch Elin Williams ar Twitter @Elin_Williams_

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma