Bois bach! O What a night!

19 Ionawr 2019

Adolygiad o’r sioe gerdd Jersey Boys gan Llion Carbis

Mae’r grŵp Frankie Valli and the Four Seasons yn cael eu hystyried fel un o wir glasuron cerddorol yr ugeinfed ganrif, ac mae’r sioe theatr Jersey Boys yn talu teyrnged arbennig i gatalog y band, wrth lwyddo i adrodd stori am bedwar gŵr a aeth o ganu o dan golau strydoedd Jersey i werthu dros 175 miliwn record ledled y byd.

Stori ydyw sy’n ffocysu ar fywydau’r pedwar aelod y band, yn benodol Frankie Valli a gafodd ei bortreadu’n wych gan Michael Watson, a’i siwrne yn  trawsnewid o fachgen ifanc i un o leisiau mwyaf adnabyddus yn hanes cerddoriaeth. Ar hyd y daith ceir sawl rhwystr, o broblemau ariannol, i berthnasau yn dymchwel, ond y cysonyn yw dawn diwyro Frankie a’r llais bythgofiadwy sydd wedi’i osod fel un o arwyr cerddoriaeth.

O’r eiliad cyntaf, mae’r perfformiad yn llwyr egnïol, gyda’r set a’r gwisgoedd yn cynnig golwg trawiadol. Roedd amrywiaeth ac ansawdd y gwisgoedd yn cynnig dyfnder gweledol i berfformiad hynod broffesiynol. Yn yr un modd, roedd y llwyfanni yn gymharol syml, ond yn effeithiol tu hwnt.

Dod ag America’n fyw

Un o brif gryfderau’r sioe oedd yr hiwmor teimladwy o’r cychwyn, a lwyddodd i ymgysylltu’r actorion a’r gynulleidfa yn syth. O’r llwyfanni effeithiol, i’r acenion clir, ceir teimlad gwirioneddol eich wedi glanio yn yr Unol Daleithiau.

Yn wir, rhaid canmol ansawdd y canu, a llwyddodd y pedwar prif gymeriad, Frankie Valli (Michael Watson), Bob Gaudio (Declan Egan), Tommy Devito (Simon Bailey) a Nick Massi (Lewis Griffiths) i efelychu sain unigryw’r band yn wych.  Cafodd pob clasur o Sherry, i December 1963 (Oh what a night), ei gynnwys, ac roedd y canu a’r dawnsio nodweddiadol yn cynnig toreth o fwynhad.

Am stori sydd yn adrodd bywyd unigolion sydd bellach dros 80 mlwydd oed, fe lwyddodd y cynhyrchiad i ymdrin ag uchafbwyntiau bywyd y band a Frankie gyda sylw priodol; nad oeddech erioed yn teimlo bod darn o’r sioe wedi ei ruthro, er, o bosib, roedd lle i ddatblygu perthynas Frankie â’i ferch Francine mewn rhagor o ddyfnder.

Y ganmoliaeth gorau mae modd rhoi i’r cynhyrchiad oedd perfformiad cyson pob un aelod o’r cast. Heb os, roedd pob unigolyn wedi cynnal safon eithriadol o uchel, ac nad oedd un cymeriad yn well na’r llall ar sail ansawdd eu perfformiadau.

Technegau cyfrwys

Ynghyd â’r actio safonol, roedd technegau cyfrwys wedi ychwanegu at safon y perfformiad. Roedd defnydd clipiau gwreiddiol o’r band yn ymddangos ar y teledu yn America, wedi’i chyfuno a chlipiau byw o’r actorion yn llwyddo i greu darlun mwy trylwyr. Yn debyg, roedd defnydd celf a seiliwyd ar waith nodedig yr artist op-art Roy Lichtenstein wedi helpu i greu  awyrgylch gwir Americanaidd ynghyd â sefydlu rhai o nodweddion fwyaf cofiadwy’r cyfnod.

Yn syml, perfformiad aruthrol ydoedd a chynigodd digonedd o chwerthin ac adloniant. I rai sydd yn edmygu gwaith y grŵp byd-enwog, neu i rai sydd yn edrych i fwynhau cynhyrchiad theatr safonol, ewch i lawenhau yn y dathlu!

Mae’r Jersey boys yn ymddangos yng Nghanolfan y Mileniwm tan Ionawr 26. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma