Blog yr Hogyn o Rachub: Ein Cyfaddawd Ni

29 Ionawr 2014

Dydd Sul, 26ain Ionawr 2014

Mae’n anodd bod yn Gymro Cymraeg â pheidio â chael llond bol ar bopeth. Ond mae o’n teimlo weithiau fel petai holl rymoedd y byd hwn yn uno yn ein herbyn. Dwi’n siŵr nad fi ydi’r unig un sydd wedi sylwi, dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf yn benodol, fod straeon a sylwadau gwrth-Gymraeg yn dod yn bethau mwy cyffredin nag yr oedden nhw rai blynyddoedd ynghynt. Beryg y bu ffigurau’r cyfrifiad yn fêl ar fysedd y lleiafrif hyll hwnnw yng Nghymru, nad yw’n lleiafrif dibwys gwaetha’r modd, sy’n casáu’r Gymraeg ac yn ddirmygus o’r rhai ohonom sy’n ceisio’i siarad a’i harddel. I’r rhai sy’n ymosod arnom o’r tu hwnt i Glawdd Offa – pobl sy’n gwybod dim am Gymru, heb sôn am ystadegau cyfrifiadau, ond am yr hyn a arddelo’u rhagfarn – nid a wna’r un ganran na ffigur wahaniaeth i’w barn druenus. Byddai’n rhy ddiflas peidio â phigo ar leiafrif y mae’n dderbyniol ei sarhau, wedi’r cyfan.

Duw ag ŵyr.

Ond dwi’n siŵr o un peth. Y mae’r ymosodiadau ar y Gymraeg fel petaent yn amlhau – y cyfan yn ensynio pam ddylai’r di-Gymraeg orfod cyfaddawdu i’r lleiafrif gwirion sy’n mynnu dal ynghlwm wrth iaith a ddylai fod wedi hen farw wrth i weddill y byd esblygu? Y gair allweddol ydi ‘cyfaddawd’. Nefoedd, dwi wedi cael llond bol ar bobl yn dweud neu’n ensynio eu bod yn gorfod ‘cyfaddawdu’ i siaradwyr Cymraeg.

Beth ydi’r cyfaddawd erchyll hwn a wna’r di-Gymraeg yng Nghymru? Dysgu rhywfaint o’r iaith frodorol yn yr ysgol yn lle rhywbeth “call” fel Sbaeneg neu Fandarin; ffieiddio ar y ffaith fod rhai swyddi yn Gymraeg ‘hanfodol’ (os cofiaf yn iawn, 2% o swyddi yn y sector cyhoeddus sy’n ffitio’r disgrifiad hwn – un o bob 50); dioddef arwyddion mawr gyda dwy iaith arnynt ac, o ia, palu arian mewn i sianel na allan nhw mo’i deall. Erbyn 2016 bydd cyllid y Sianel yn £74.5m -llai na £25 y pen i bawb yng Nghymru, i’w roi ffordd arall. Bŵ-ffycin-hŵ.

Efallai y dylent ystyried a deall, hyd yn oed yn fras, ein cyfaddawd ni.

Gwasanaethau eilradd yn Gymraeg – ym mhob maes posibl. Gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth yn dragywydd. Cael ein bychanu, ein gwawdio a’n dilorni’n gyson gan rai pobl yn ein gwlad ein hunain neu dros y ffin, a gyfiawnheir â rhyddid mynegiant, a hynny heb fyth gael y cyfle i ateb yn ôl. Ein gweld ein hunain yn troi’n lleiafrif hyd yn oed yn ein cadarnleoedd traddodiadol, bron yn ddiymadferth i wrthdroi’r sefyllfa.

Derbyn na allwn fyw ein bywydau – hyd yn oed weithiau gwneud y pethau mwyaf sylfaenol – drwy gyfrwng ein hiaith ein hunain, yn ein gwlad ein hunain, hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny lle’r ydym yn niferus neu’n fwyafrif clir.

Pwy Saesneg ei iaith erioed a aeth i garchar, neu a fynychodd brotest, neu hyd yn oed a lofnododd ddeiseb, am yr hawl i fyw o leiaf rai elfennau o’i fywyd yn Saesneg yng Nghymru? Pwy yn wir.

Ydi, mae dwyieithrwydd yn gyfaddawd. Ond ein cyfaddawd ni ydi o – cyfaddawd unochrog a gorfodol a orchmynnwyd ar y Cymry Cymraeg. Cyfaddawd nad oes gennym ddewis yn ei gylch eithr ei dderbyn. Pan fyddo’r rhai sy’n ein casáu’n uchel eu croch, neu rywrai’n cwestiynu’r cyfaddawdau a wnân nhw erom ni, byddai’n syniad da iddynt gymryd ond munud i feddwl am wir natur dwyieithrwydd yng Nghymru.

Ein cyfaddawd ni ydi o.

Cliciwch yma i ddarllen mwy o flogiau’r Hogyn o Rachub.

Twitter: @hogynorachub

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Tony Mercer yn dweud:

Cytuno’n llwyr! Dwi’n Sais a gafodd y pleser o gael byw a gweithio ar Ynys Mon am dros ddeng mlynadd ar hugain, ac wedi ymddeol bellach ac yn byw yng ngogledd Dyfnaint. Un o’r ffyrdd roeddwn yn meddwl y baswn yn cael cadw safon fy Nghymraeg yn weddol oedd drwy gwylio S4C ar “Freeview”…. O na – DIM ar gael….
Beth am Radio Cymru ‘ta? Na – dim ar gael ar DAB (OND mi fedra’i wrando ar yr Asian Channel….neu BBC Alban yn eu ieithoedd eu hunain). Pan ofynnais i’r BBC am y rheswm nad oedd BBC Cymru ar gael – “Dim ddigon o alw amdano…” Wedi imi gosod polyn uchel yn yr ardd i dal erial, dwi’n gallu clywed Radio Cymru fel ‘tai’n cael ei drosglwyddo o ganol bocs matsys – a phob un yn crafu’n erbyn ei gilydd. “Big Deal” chwedl y sais…. Gwn bod y We i fod yn ateb i bob parlys y dyddia’ ‘ma – ond dwi ddim bob amser eisiau fod yn isda o flaen sgrin er mwyn gwrando (a throsglwyddo fy hun yn ol i Gymru tra’n gwrando) ar yr iaith Gymraeg.

Daliwch ati, hogia – a diolch am flog efo set o ddannadd go iawn!

Rhys yn dweud:

Diolch yn iawn i ti am dy sylw, Tony. Gobeithio bod y wefan yn plesio!

Ni’n falch iawn o fedru rhannu blog yr Hogyn o Rachub ar y wefan o bryd i’w gilydd ac ar ein tudalen facebook a’n cyfrif Twitter. Gobeithio fedrwn ni gyhoeddi mwy o ddarnau ganddo yn y dyfodol.