Blog Einion Cantona: Codwch llaw ar y Gymraeg, Pobl Caerdydd…

6 Ionawr 2014

Mae Einion Cantona yn flin. Yn flin iawn. Mae’n flin achos bod ni, y Cymry Caerdydd, yn gwbwl hunanfoddhaol, wedi ein swyno gan ein bywydau breintiedig dinesig a ddim yn sylwi bod yr iaith Gymraeg yn brysur farw…

Felly, y sefyllfa yw bod cefn gwlad yn gwagio am eich bod chi am ddod i fyw i Gaerdydd. Neu Llundain, neu Lerpwl, neu jyst a bod unrhyw le ond gatre. Sori ond mae’n wir. Ry’ch chi yma am resymau hollol, hollol hunanol ac mae’n dwp ddisgwyl ichi boeni dim am unrhywbeth neu am unrhywun ond chi eich hun. Chi yw’r Cymry disglair, hufen y teulu, trysor eich cymunedau, rhai talentog, peniog, craff. Ry’ch chi wedi troi cefn ar eich cartre gan adael i’r moch ruthro arno. Deng mlynedd yn n’ôl roedd 96 cymuned Cymraeg yng Ngymru a nawr mae 36 am ichi adael am borfeydd lysh y ddinas. Diw e ddim yn neis pan mae rhywun yn dweud e, mas yn uchel, ond mae’n wir.

Fuoch chi ar orymdaith n’ôl yn y nawdegau i gwyno am y mewnlifiad. Nawr ry’ch chi’n berchen ar dŷ Haf eich hun yn Nhrefdraeth.

Ti’n fyfyriwr tlawd, gyda’r holl bwysau gwaith yna, och a gwae! Chwarae teg, rwyt ti wedi ymuno gyda’r côr – nagyw hynna’n ddigon?

Plis, plis peidiwch a gwadu a rhoi bai am farwolaeth ein hiaith ar y llywodraeth, ar ddiffyg statws, ar ddiffyg arweinwyr a bla bla bla. Petae gyda chi yr un pipryn o ots am eich iaith fyddech chi mas yna ar y stryd yn gweithredu drosti nawr. Mae esgusodion Cymry Caerdydd am eu diffyg ymdeimlad/ymrwymiad at eu hiaith yn codi cyfog arna i. Chi gyd mor post nash, mor siti soffis, gymaint mwy ddatblygiedig na’r Werin dat, wir. Mae prisiau tai yn fwy o ddiddordeb gennych chi na gwerth cartref.

Mae’r gallu sydd gennych i dwyllo chi eich hun eich bod yn gwneud eich shâr yn rhyfeddol. Mae’r plant yn mynd i’r ysgol Gymraeg, afterall. Ry’ch chi’n derbyn negeseuon Menter Caerdydd. Ry’ch chi’n fardd/gweithio yn y cynulliad/y cyfryngau. Ry’ch chi’n athro/wes yn gweithio’n galed i gymreigio’r ddinas. Fel bydde Santa’n dweud, “ho, ho, ho.” Mae pob yr un ohonoch chi yn byw ar y wladwriaeth, pob un, yn cael eich cyflogi yn n’ôl bendith Prydain, pawb yn gwbl ddibynnol ar llwgrobwyad gan y llywodraeth i’ch cadw mor dawel, ufudd a diolchgar ag yr y’ch chi. Yr eiliad mae drws nesa yn penderfynnu nad oes bygythiad yma rhagor mae nhw’n tynnu’r cash yn nôl ac mae’r tren grefi yn gadael y cledrau (gwelwch EOS, y BBC, toriad grantiau i’r Gymraeg gan y cyngor, Tafwyl, S4C…)

Hyn dwi’n clywed yn aml: “ond mae mor anodd gwbod be i neud!” Os ych chi’n poeni am gerddorion Cymraeg prynwch eu cerddoriaeth. Am bris un galwad ffôn i X Factor gallech brynu dwy gân ar itunes. Prynwch ddau albym Cymraeg a bydd y pop yn parhau. Cerwch ar wefan Cymdeithas yr Iaith – mae chwe pheth fynna gallwn ni gyd wneud a chefnogi. Ie? Na? Wir ichi nawr, mae popeth yn dod i ben, go iawn.  Diw’r ffaith bod John Lewis yn dangos ambell i arwydd ddwyieithog ddim yn golygu bod y frwydr ar ben. Onest.

Wrth gwrs yr eironi yw po fwya dihid ry’ch chi am y Gymraeg, po fwya uwchlaw hynna i gyd, mwya tebygol y’ch chi o golli’r cash sy wedi’ch denu chi yma yn eich miloedd. Gweithredu  gwleidyddol sydd wedi creu eich swyddi ac mae diffyg diddordeb gwleidyddol yn rhoi rhwydd hynt i’r Wrth Gymraeg gau y cafn. Diw Prydain ddim yn ffrind i’r Gymraeg, dy’n nhw ddim yn rhoi’r ychydig sy’n dod o haelioni eu calonnau na chwaith am eu bod yn gweld gwerth yn ein hiaith. Y cyfle cynta geith y Brits i gymryd eich arian yn n’ôl, fe wnewn nhw. Maen nhw’n gwneud nawr. Mae’ch apathi yn mynd i golli’ch jobs ichi!

Gyda llaw, dwi’n gwybod bod hyn yn beth na ddylwn i ddim dweud, na ddylwn i ddim gwerthuso ymdrechion lew yr unigolion sy’n gweithio mor galed, ond… nid ffatris cynhyrchu Cymry yw’n hysgolion dinesig. Yn aml, yn amlach na pheidio, seisnigeiddio plant Cymraeg mae nhw. Newch chi ddim cyfaddef hynny achos fyddai’r gwir yn eich gorfodi i wneud rhywbeth mwy na mond eistedd yn n’ôl yn gyffyrddus, neis a gwneud rhywbeth am y sefyllfa. Haws gwadu, ie? Mae’n siwr dewch chi o hyd i ryw esgus dila, urbane i gyfiawnhau eich diffyg gofal llethol.

Falle bo fi’n anghywir. Efallai bydd y trideg mil o Gymry sy’n byw yn Nghaerdydd yn rali nesa CYI. Neu jyst yn siarad Cymraeg gyda’u plant, eu ffrindiau, eu cydweithwyr. Efallai eich bod yn cynllunio yn barod sut i ddefnyddio eich cyfalaf anghyffredin i ailfywiogi’r Gymraeg.

Neu

Codwch llaw ar y Gymraeg. Mae’ch awch digydwybod am cash a chynwrf yn golygu mai’r genhedlaeth hon fydd yn ta-taio ar y Gymraeg.

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Jason Morgan yn dweud:

Cytuno efo bron pob gair o hyn.

Jason Morgan yn dweud:

O ail-ddarllen hwn – a dwi dal yn cytuno efo hanfod bron popeth yma – dwi’n meddwl y dylid pwysleisio mai lleiafrif sydd mor ddi-hid ac yn lyfio’r arian/tai. Mae’r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yng Nghaerdydd YN poeni am yr iaith yn fy mhrofiad i. Ti ddim yn gorfod mynd i rali CyI i garu’r Gymraeg (er ma’n ffordd uffernol o hawdd dangos cefnogaeth i’r iaith nad ydi pobl efallai’n gwneud … ond ydi hynny’n unigryw i Gaerdydd)?

Dwi’n meddwl y broblem ydi o ran hynny mae hi mor mor hawdd cymryd cysur o gynnydd (bach) yr iaith yn y ddinas mae hi’n hawdd iawn anghofio, y tu allan i ffiniau’r ddinas hon, mae’r Gymraeg yn edwino. Yn gyflym iawn mewn rhai llefydd, ac mae hi’n cael ei chynnal yn y ddinas nid gan ysgolion ond gan fewnfudo o ardaloedd Cymraeg. Ennill Caerdydd ydi colled y Fro Gymraeg.

Stef yn dweud:

Fel un oedd arfer gwario cryn dipyn o bres ac arian ar gieddorraeth, dw i wedi gadael fynd a cholli cysylltiad braidd dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf. Er mawr cywilydd, doeddwn i heb glywed am rai o’r rhain, heb sf4n am fod yn gyfarwydd e2’u miwsig. Diolch mawr, wrth fy modd. Gwych.

Angielou yn dweud:

Dewisiadau da Mistar Nwdls. Gaf i ychwanegu Mae Dau Cefn wedi bod yn wych, e.e. y traaciu ar y Record Goch a’i gig yn yr Eisteddfod.Hefyd mae’r Joy Formidable wedi cael blwyddyn dda perfformiad ar sioe Letterman ac albwm cyntaf. .Beth am di-SRG? Un o fy hoff albymau oedd

Osian Rhys Jones yn dweud:

Os dychanu, rhaid dychanu yn dda. Mae honno’n grefft anodd.

Tydw i ddim am ddechrau dadl hefo ffugenw, ond mae pwynt Jason Morgan yn un teilwng sydd angen trafodaeth aeddfed arni gan ei fod yn cael effaith fawr ar Gymru heddiw. Does dim modd gwadu’r shifft demograffig a’i effaith diwylliannol a chymdeithasol, ond dydi hi ddim mor ddu a gwyn â hynny chwaith. Mae sawl rheswm pam fod Cymry Cymraeg yn byw yng Nghaerdydd.

Nid pawb sydd am gytuno gyda safbwyntiau fel yr uchod neu rai Jason, gan gynnwys y finnau, ond does dim o’i le ar drafod yn adeiladol. Dydi’r erthygl hon, yn fy marn i yn ychwanegu dim at y drafodaeth honno.

Meilyr Sion yn dweud:

Nifer o bwyntiau diddorol yn cael eu codi fan hyn. Serch hynny, mae hi braidd yn simplistig i gwyno am un carfan cymdeithasol wrth son am dreng yr iaith. Ydi mae’r to ifanc wedi bod yn gadael Y Fro ers rhai blynyddoedd bellach er mwyn chwilio am waith. Fe wnes i hynny fy hun rhai blynyddoedd yn ol ond dwi ddim yn teimlo’n euog ynghylch hyn. Dylid ystyried prisau tai, diffyg cyfleuon gwaith, y mewnlifiad di-ddiwedd a.y.y.b. Yn sicr mae angen i ni brotestio a phleidleisio er mwyn ceisio newid y sefyllfa sydd ohoni, ond mae ‘apathy’ yr un mor hunllefus yn ein cymunedau Cymreig ag ydyw ymysg y dinasyddion.
Dwi wedi gweld ffigyrau gwahanol o ran nifer y cymunedau Cymraeg eu hiaith na’r rhai a nodir er mae’n wir mai gostyngiad a welir.
Undod sydd angen arnom, nid codi bys a danod. Mae angen i drigolion Y Fro a thrigolion y ddinas ddod at ei gilydd. Beth am symud ein sefydliadau cyfryngol a pholiticaidd tua’r gogledd orllewin?

Nia Percy yn dweud:

Cytuno gyda llawer o syniadau Einion Cantona. Ond does dim yn newydd am bobl yn gadael cefn gwlad Cymru. Siawns bod well eu bod yn dod i Gaerdydd nac i Lundain, Lerpwl, Manceinion fel ganrif yn ôl?

Minimoni yn dweud:

mae rhai yn Soundcloud-yn-unig neu YouTube-yn-unig. Dw i ddim yn licio’r gair demo’ os dyw’r artist ddim yn ei ddfdyneio ond yn trio ffeindio gair am gerddoriaeth sydd ddim yn rhyddhad go iawn’. Weithiau mae rhyddhad gallu bod yn ffilter ansawdd ond hefyd gallu bod yn ffilter ceidwadol. Mae DJs fel Adam Walton yn chwarae rhai ohonyn nhw ond mae dal angen lot mwy o sylw yn y cyfryngau yn fy marn i.