Beth sydd mewn enw? Prosiect arloesol sy angen help pobl Caerdydd

5 Tachwedd 2013

Roedd yna sylwadau ryw wythnosau’n ôl ar Pobl Caerdydd ynglyn â tharddiad y gair Leckwith. A oedd yr enw Cymraeg am y llethr ar gyrrion orllewinol Caerdydd wedi’i Seisnigeiddio – o Llechwedd i Leckwith?

Yn ôl Tom Pert, Rheolwr Datblygu Ar-Lein Tîm Data a Thechnoleg Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, fe allai hwn fod yn wir oherwydd roedd y swyddogion yr Arolwg Ordnans oedd yn teithio’r wlad ar droad y ganrif ddiwethaf yn mapio’r tir, yn methu siarad Cymraeg. Felly pan oedden nhw’n gofyn i’r werin am enwau lleoedd i roi ar y mapiau, doedden nhw ddim yn trafferthu gyda’r sillafu cywir yn Gymraeg ac yn ysgrifennu ei fersiwn nhw o beth oedden nhw’n ei glywed.cymru1900wales4

Yn ddiweddar lawnsiwyd gwefan newydd a fydd yn manteisio ar wybodaeth gwirfoddolwyr i gofnodi holl enwau lleoedd Cymru fel roedden nhw’n ymddangos ar Fapiau Ordnans ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd.

Mae Cymru1900Wales.org  yn brosiect cydweithredol sy’n torri tir newydd. Fe’i datblygwyd ar y cyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru.

Ar wefan cymru1900wales.org gofynnir i chi astudio mapiau hanesyddol Cymru, a gyhoeddwyd gan yr Arolwg Ordnans rhwng 1899 a 1908, a chofnodi lleoliad yr holl destun a ddangosir ar y mapiau; enwau trefi, pentrefi, coedydd, ffermydd, afonydd, nentydd, plastai – popeth!Screenshot 2013-11-05 20.06.24

“Mae hyd yn oed elfen gystadleuol i’r broses hon fydd yn siŵr o gael gafael ynoch; po fwyaf o enwau lleoedd a gofnodir gan wirfoddolwr, yr uchaf fydd eu safle yn y Siart Cyfranwyr. Dyma’r prosiect cyntaf o’i fath ym Mhrydain,” ychwanegodd Tom. Mae 1900 yn amser cyffrous yn Nghaerdydd, cyfle i bawb ddod i nabod eu carreg filltir wrth gofnodi’r enwau lleoedd. Os all pawb gofnodi deg enw yr un fyddwn ni’n hapus, mae unrhyw un yn gallu neud hyn,” meddai.

I wybod mwy, cliciwch yma

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Siôn yn dweud:

Mae’n eitha amlwg mai Seisnigiad o Llechwedd yw Leckwith. Pam felly fod rhyw cringe Gymraeg ar bobl newyddion BBC Cymru a’r awdurdodau i ddweud Lecwydd?

Oni bai fod rhywun o Eiriadur Prifysgol Cymru neu ffynhonell debug yn dweud fel arall, yna Llechwedd yw enw’r lle.

Ydym ni, a’r BBC am dderbyn pob enghraifft o gamsillafu, camddeall, diogi gwladychol, csmyngannu ll fel l, a nonsens enw lle arall? Beth am Llantwit neu Lizvane neu Lanisien a Landaff hefyd?!

Llechwedd yw enw’r lle wir dduw. Ac oni bai fod tystiolaeth fel arall beth am ddefnyddio synnwyr cyffredin unrhyw sy’n siarad Cymraeg a galw’r lle yn Llechwedd.

Pam y diffyg hyder yma yn y Gymraeg. Ydi pobl wedi derbyn myth y gwrth-Gymraeg nad yw’r Gymraeg yn perthyn i Gaerdydd?

Mogs yn dweud:

Mmm…dwi’n cytuno gyda llif cyffredinol dy araith Sion. Mae’n bosibl mai ‘Lle Helygwydd’ yw’r enw gwreiddiol, sef trigfan person o’r enw hynny. Efallai hyd yn oed ‘Lle Gwydd’ – man coediog ar lethr. Dwi’m yn mynd ar ôl manylion pitw er mwyn dy wylltio, y pwynt dwi’n ei neud ydi y dylwn ni fod yn sicr o enw Cymraeg POB LLE yng Nghymru, a’i ddefnyddio. Sdim ots gen i os mai Llechwedd, Llegwydd neu Llengoedd sy’n iawn, mond bod pawb yn cytuno a’n bod ni’n hepgor yr enw Saesneg. Os nad y’n ni’n sicr o’r enwau Cymraeg, fydd yn fel ar fysedd rhyw Jac digym fydd wrth ei fodd yn tynnu sylw at y gwallau.