BBC/PRS/EOS: Beth nesaf i gerddorion Cymraeg?

2 Ionawr 2014

Sut all cerddorion Cymraeg greu llwyfan gyfartal i’w cerddoriaeth, gofyna Hywel Wigley

Tristwch mawr i mi oedd clywed am ddyfarniad y Tribiwnlys Hawlfraint yn ddiweddar, pan ddatgelwyd mai £100k yn unig yw gwerth cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg ar Radio Cymru bellach.

PRS

Mae 90% o’r taliadau breindal a rennir gan y Performing Rights Society (PRS) i gyfansoddwyr ym Mhrydain yn cael eu hawlio gan 1% yn unig o aelodau’r gymdeithas. Nid sioc oedd deall fod aelodau Bwrdd Cyfarwyddwyr y PRS i gyd yn gyn-gyfarwyddwyr labeli recordio mawrion. Eu blaenoriaeth hwy yw gwarchod sefyllfa eu cwmnioedd, gan wneud eu gorau i rwystro unrhyw un rhag chwalu’r monopoli sydd gan y PRS.

Gyda’r pŵer y mae’r monopoli hwn yn ei roi, gall PRS osod eu telerau eu hunain, wrth ‘drafod’ gyda’r BBC, a’r PRS yn unig sy’n penderfynu sut i rannu oddeutu £1biliwn o daliadau breindal yn flynyddol.

BBC

Ar hyn o bryd mae Radio Cymru yn talu breindal o gwmpas 40c y funud, ac £133 y trac am sesiwn C2 – sydd prin yn talu am gostau petrol i stiwdio, heb son am hybu gwerthiant yn fasnachol. Mae’n anheg fod artistiaid newydd yn cael eu taflu i’r pen dwfn yn syth heb gael eu hannog i wella ac i ddatblygu eu talent.

Mae cynhyrchu a rhyddhau caneuon ar label yn broses ddrud. Wedi creu’r recordiad, bydd angen nifer o sgiliau arbenigol i hyrwyddo a chreu diddordeb a chynwrf yng ngwaith yr artist. I’w roi mewn perspectif, mae’n costio tua £15- £20,000 i gynhyrchu albwm i safon darlledu ar radio, ac mae cost cynhyrchu CD sengl tua £1500 – £3000. Er mwyn ceisio ad-ennill y costau hyn, bydd angen i’r recordiad gael ei chwarae dros 8,000 o funudau ar Radio Cymru – sydd yn hollol amhosibl!

Cefais y cyfle i fynd o gwmpas rhai o ysgolion Cymraeg yn y De yn ddiweddar, a chlywais yr un sylw dro ar ol tro, sef ” ‘Dyw’r iaith Gymraeg ddim yn byw tu allan i’r dosbarth” ac “Mae cerddoriaeth Gymraeg yn eilradd”. Mae cysylltiad andwyol yma : byddai canu poblogaidd mewn unrhyw iaith yn eilradd os yw’r tal a dderbynnir yn ddim ond 40c y funud a chyllideb sesiwn mor isel â £133 y trac!

Yn eironig, ac i’w roi mewn perspectif, mae’r swm sydd bellach ar gael gan y BBC i’w rannu rhwng y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg yn ei gyfanrwydd yn union yr un swm ag y bydd yn ei gostio i Acapela adnewyddu’r to’r stiwdio! Sut gall cerddoriaeth Cymraeg barhau i ffynnu gyda dim ond £100,000 i’w rannu rhwng yr holl aelodau? Mae’r sefyllfa yn anghynaladwy.

Pob blwyddyn mae gwariant Radio Cymru oddeutu £13-£14miliwn, ac mae’r orsaf yn dibynnu’n helaeth iawn ar gerddoriaeth i gynnal y gwasanaeth. Bydd dros 60% o amser darlledu Radio Cymru’n cael ei ddiwallu gan gerddoriaeth, ond dim ond 0.77% o gyllideb Radio Cymru sy’n cael ei wario i dalu amdano!

‘Dwylo wedi’u clymu’

Pam nad oes rhyddid i Radio Cymru benderfynu dros eu hunain sut i wario’u harian? Beth mae’r BBC yn Llundain yn gwybod ac yn deall am y sefyllfa yng Nghymru? Profodd streic y cerddorion fod perthynas uniongyrchol rhwng ansawdd y caneuon a nifer gwrandawyr Radio Cymru. Mae’n drist fod nifer y gwrandawyr wedi disgyn dros gyfnod y streic, a bod dwylo Radio Cymru wedi’u clymu. Mae angen mwy o fuddsoddi mewn datblygu cerddoriaeth Cymraeg, nid llai. Mae’n effeithio’r gynulleidfa, sydd yn ei dro’n effeithio ar y niferoedd a ddaw i neuaddau gigs. Mae’n amlwg i mi fod angen buddsoddi a gwneud ymdrech i wella pethau, ond pwy sydd â’r gair olaf? Llundain?!

Roedd cynllun busnes Acapela i drawsnewid hen gapel gwag yn stiwdio recordio a neuadd gyngerdd chwe mlynedd yn ôl yn seiliedig ar incwm o Radio Cymru. Bryd hynny yn 2003, roedd cyfanswm ein ffigyrau breindal PRS yn deg, ac yn caniatau i ni ail-fuddsoddi’n gall yn y busnes. Pan ddisgynodd y cyfradd o 90% daeth yn anghynaliadwy ac er fod y cwmni’n fwy cynhyrchiol yn 2013, dyw’r breindal ond yn geiniogau prin o’r ffynhonnell honno!

Creu incwm o’r radio – sut mae’r system yn gweithio i gael artist ar donfeddi gorsafoedd radio masnachol, mae’n rhaid i gân newydd gyrraedd y siartiau Prydeinig. I wneud hynny, rhaid cael airplay ar donfeddi gorsafoedd radio Prydeinig, ac mae’r ffactor yma’n gyffredin rhwng labeli led-led Prydain. Cynllunio cyfrwys a chlyfar gan y monopoli cerdd o’r prif labeli mewn cydweithrediad a PRS sydd wedi achosi hyn, a dyma’r prif rwystr i unrhyw label bach – yn arbennig tu allan i Lundain – dyfu.

Fel unrhyw fonopoli mae gafael y cwmniau mawr ar y farchnad yn anheg, yn gwbl annemocrataidd ac afiach. Flwyddyn yn ôl fe aeth trac “Gangnam style” i frig y siartiau, ac hwnnw yn yr iaith Coreaidd, tybed faint o gefnogaeth oedd na yn Korea iddyn nhw?

‘Newid agwedd’

Byddai’n llawer gwell pe bai’r BBC yn Llundain yn newid eu agwedd tuag at y diwydiant a’u annog i gydweithio – yn hytrach na mynd ag EOS i gyfraith. Costiodd yr achos Tribiwnlys hawlfraint £360,000 i’r BBC, ac mewn achosion cwbl wahanol, talwyd dros £25m mewn pecynnau ymddiswyddo ac ymddeol i gyn-benaethiaid y Gorfforaeth. Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn troi biliynnau o bunnoedd bob blwyddyn. Hoffwn weld datblygiad sy’n rhoi llwyfan cyfartal. Pam ddim cael cwota isafswm o gerddoriaeth Cymraeg ar bob gorsaf radio ac hefyd mewn canolfannau celfyddydol sy’n cael arian gan y CCC? O ran twristiaeth mae lle i gerddoriaeth helpu greu ffenest siop!

Ychydig iawn o syniadau (am raglenni a chaneuon) o’r rhanbarthau gaiff eu cymeradwyo gan y BBC yn ganolog : Llundain sy’n llywio a Llundain sy’n penderfynu. Gwae unrhywun sy’n mentro herio awdurdod y PRS yn ganolog! Yn fy marn i, mae hyn yn mynd yn erbyn datblygiad technoleg, sy’n ddemocrataidd ac yn cynnig cyfleoedd i greu cerddoriaeth i artistiaid talentog o bob cefndir. Gret fyddai gweld y “Can-do Punk ethics” o’r 70au yn gwneud atgyfodiad, ond wrth gwrs fysa hynny ddim wrth fodd y monopoli sy’n creu elw “tu hwnt i naturiol” allan o’r status quo.

Mae’n eironig fod cerddoriaeth boblogaidd, a oedd unwaith yn radical, dros amser wedi troi mewn i’r sefydliad.

Mae Hywel Wigley yn gynhyrchydd recordiau sydd yn rhedeg stiwdio sain a pherfformio Acapela ym Mhentyrch.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma