Bara i bawb o bobl Treganna

7 Ebrill 2014

Aeth Huw Onllwyn i gael gwersi pobi bara yn y One Mile Bakery yn Nhreganna  

Dechreuodd y cyfan gyda phaned o de, tua pum mlynedd yn ôl.   ‘Roeddwn wedi trio amrywiaeth o ‘fagiau te’, gan gynnwys Tetleys, Typhoo, Glengettie a’r Paned Gymreig (a oedd yn cynnwys dail te o lethrau’r Wyddfa, mae’n debyg). Ceisiais ychwanegu’r llaeth cyn, ac ar ôl, y dŵr berw. Triais osod y bagiau mewn tebot, gan obeithio gweld gwahaniaeth. Ond pob tro, roedd rhywbeth pwysig ar goll. Sef blas te.   ‘Roedd y cyfan yn blasu fel llwtra brown marwaidd, digymeriad a diflas.

Dyma fi’n troi at y we, felly, i gael deall mwy am ein hoff ddiod. A dyma sydd gan Wikipedia i’w ddweud:   ‘The use of tea bags is easy and convenient. However, they have negative aspects. The tea used in tea bags is commonly fannings, or ‘dust’, the waste product produced from the sorting of higher quality loose leaf tea. This method provides an inferior taste and experience. Tea looses its flavour quickly on exposure to air – and tea bags contain leaves broken into small pieces which dry quickly, causing them to go stale faster’.

Ych a fi! Nid wyf am yfed llwch o lawr y ffatri, diolch yn fawr.   Felly, i ffwrdd a’r ‘bagiau te’ uffernol (heddwch i’w llwch) – ac i mewn â’r dail te go iawn. Dail persawrus Keemun, Yunnan, Oolong, Assam, Niligri a Lapsang Souchon. Te blasus, ffres a bywiog, yn cynnig amrywiaeth anhygoel o ran blas, lliw a chymeriad.   A beth gwell na te a thost (mewn tŷ a tho – a’r tywyllwch o’r tu allan)?

Crefft ddirgel yw pobi bara

Ond nawr roedd gennyf broblem arall. ‘Roedd y te yn wych, ond roedd y bara, o’i gymharu, fel gwlân cotwm. Marwaidd, digymeriad a diflas. Yn llawn awyr, rhwygai’n hawdd, heb nerth i afael yn y menyn, hyd yn oed. Yn ogystal â’r awyr, roedd yn cynnwys ‘spirit vinegar, disodium diphosphate, potassium hydrogen carbonate, acidity regulator, glucono-delta-lactone a potassium sorbate’. Mmmm…scrummy.   A dyma gychwyn ar fy ngyrfa fel pobydd. Blawd, dŵr a burum (a ‘chydig bach o halen) – a dilyn hen, hen brosesau i greu bara brown, gwyn a surdoes. Y cyfan yn bleser i’w bwyta.   Ond mae pobi bara’n dda yn grefft ac yn ddirgelwch. Sut mae gwybod os yw’r toes yn rhy wlyb, neu’n rhy sych? Pam fod angen siapio’r toes cyn ei bobi? Beth a gyflawnir wrth hollti’r toes efo cyllell cyn ei osod yn y popty? Pam fod bara gwyn yn codi’n well na bara brown? Oes modd i mi fod yn bobydd ‘artisan’?

Elisabeth Mahoney  perchennog One Mile Bakery

Elisabeth Mahoney
perchennog One Mile Bakery

Cefais gyfle i ddysgu mwy am y broses – ac i ofyn y cwestiynau uchod – wedi i mi dderbyn taleb yn anrheg Nadolig (diolch i f’annwyl ferch), i fynychu cwrs yn y One Mile Bakery, yn Nhreganna. Cwmni bach (iawn) yw’r One Mile Bakery, wedi ei sefydlu gan Elisabeth Mahoney (a oedd arfer sgwennu am fwyd a gwyliau i’r Guardian. A job arbennig o wych oedd hwnna, meddai hi). Fe elwir y cwmni’n One Mile Bakery gan ei bod yn dosbarthu’r  bara mae’n ei bobi (ynghyd â jam cartref a chawl) i gartrefi sydd o fwn un milltir i’w thŷ – a dim mwy.

‘Roeddwn yno efo tri arall a oedd, fel fi, wedi derbyn y cwrs fel anrheg Nadolig. Ac ‘roedd yn brofiad gwych, gwâr a hyfryd iawn. ‘Roedd Elisabeth yn brofiadol iawn, yn gwybod llawer iawn am y maes – ac yn gallu cynnig atebion call i’n cwestiynau. ‘Roedd yn braf fod yng nghwmni rhywun sydd mor frwdfrydig am fwyd da – ac am y bara arbennig a bobir ganddi.   Mae hi’n awyddus i weld mwy o bobl yn ‘cael eu dwylo yn eu bwyd’ wrth ei baratoi (yn hytrach na phrynu bwydydd parod) ac mae’n pwysleisio’r pleser a ddaw wrth rhannu bwyd gyda theulu a ffrindiau (‘cariad a gofal’) – gan gynnwys y gwin, y cawl a’r quiche arbennig o flasus a gawsom ganddi i ginio.   Rhwng 10.30am a 4.30pm fe lwyddom i droi blawd a dŵr yn fara gwyn, bara soda, pain de campagne a bara brown yn llawn hadau.

‘Roedd y broses yn un hawdd i’w fwynhau ac yn un diddorol (yn gymysgedd o therapi i’r enaid, yn ymgyrch fwyd ac yn wers coginio) – a braf oedd cael cyfarfod egin-bobwyr eraill.   ‘Roedd yn ddiwrnod da o waith – ac fe adewais yn cario llond basged o fara – tra’n deall yn well sut i’w bobi.   ‘Da chi ddim yma’n hir!One_Mile_Bakery

Byddwch yn garedig i’ch hunain, felly. Yfwch baned o de go iawn bob bore – a dysgwch sut i bobi bara. Mae’n beth hawdd i’w wneud – ac mae’r cyfan yn blasu’n wych iawn. Bydd torth surdoes yn costio 50c i’w wneud (neu gallwch ei brynu ym Marchnad Riverside am £3.60!)   Neu, wrth gwrs, daliwch ati gyda’r glucono-delta-lactone.

Cwrs y  One Mile Bakery : £125: Llyfr: Ar gael drwy Amazon  Blawd: Balchelder Mill

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma