Bandiau o Gaerdydd yn yr Eisteddfod

6 Awst 2016

CADNO, Hyll a Cherddoriaeth Caerdydd.

Gan Maia Davies.

Rhwng y 31ain o Orffennaf a’r 6ed o Awst, fe fydd dau o fandiau mwyaf cyffrous Caerdydd yn cyflwyno sain y ddinas i dorfeydd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni. Beth sydd yma yng Nghaerdydd sy’n cynhyrchu’r fath cynnwrf cerddorol, a beth allen ni ddysgu o’r cerddorion am y Gymraeg yn ein dinas?

“Roedd ein gig cyntaf yng Nghlwb Ifor Bach, sydd erbyn hyn yn rhyw fath o gartref i ni.”

Pan ffurfiwyd CADNO yn 2013 gan Becca, Wil, Cadi, Mali a Patrick, byddai chwarae prif lwyfan Maes B dim ond tair mlynedd yn ddiweddarach tu hwnt i’w disgwyliadau.

Cipiodd CADNO’r drydedd wobr ym Mrwydr y Bandiau 2015, gyda’i sain unigryw a chyfoes. Dywedai’r grŵp mai Sen Segur oedd eu prif ysbrydoliaeth: “doedd neb arall fel Sen Segur ar y sîn, a dyna oedd ein targed ni, i gynnig rhywbeth newydd.” Ar ôl cychwyn yn nhai ei gilydd ‘gyda lot o de a bisgedi’ i ddarganfod eu llais fel grŵp, symudon nhw i stiwdios Howardian a Cathays i hogi eu crefft.

Yn Reading Festival penderfynodd y criw i roi tro ar greu cerddoriaeth eu hunain, sydd erbyn heddiw’n elfen nodweddiadol o sîn gerddoriaeth Caerdydd. Yn anaml y cerddwch chi heibio Clwb Ifor Bach heb weld enw CADNO, ac mae’n debygol bydd y cynulleidfaoedd maent yn eu denu ond yn tyfu yn dilyn yr Haf prysur sydd ganddynt i ddod.

image1

Hyll: “Wedi wythnosau o greu twrw heb fawr o strwythur, ganed cân neu ddwy.”

“Sefydlwyd y grŵp yn ystafell dechnoleg cerddoriaeth Ysgol Plasmawr, bron a bod i dair blynedd yn ôl,” meddai Bedwyr ab Ion, unben hunan datganedig ein hail fand ‘Hyll’, am sut ddaeth y grŵp i fodolaeth oddi tano ef, Iwan Williams a Jac Evans.

Ers cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau 2015, mae’r criw a gyfaddefai i ddewis eu henw mewn ymgais i ‘dderbyn y gwirionedd’ wedi bod yn agosáu’n gyson at gnewyllyn y Sîn Roc Gymraeg. Ond nid yw Hyll wedi ennill eu cynulleidfa trwy fod yn dawel a thaclus – mae’n deg i ddweud na fyddai gig Hyll wir yn un o’u gigs nhw heb i rywbeth fynd o’i le a chael ei achub yng nghanol cân. Efallai dyma yw swyn y band: maent yn troi i ffwrdd o’r syniad o gymryd eu hunain yn rhy o ddifrif, gan leihau’r bwlch rhwng y gynulleidfa a’r llwyfan.

Mae’n amlwg fod yr wythnosau cychwynnol o ‘greu twrw’ ond wedi cychwyn talu ffordd, wrth iddynt gael eu henwebu dan y categori Band Newydd Gorau yng Ngwobrau Selar 2015.

Pa rôl y chwaraeodd Caerdydd yn hanes y bandiau?

Cydnabyddai’r ddau fand sut y cawsant lwyfan arbennig ar ffurf sîn gerddoriaeth Caerdydd, gan restri Tafwyl, Clwb Ifor Bach, Moon Club a gigiau Twrw fel rhai o’u platfformau cyntaf. Wrth gwrs, nid Caerdydd yw’r unig ardal yng Nghymru â digon o fannau perfformio, ond caiff diwylliant y ddinas effaith fawr ar ei sîn gerddoriaeth.

Mae yna ryw gytundeb tawel yma yng Nghaerdydd: os ydych chi eisiau rhywbeth ac yn fodlon gweithio er mwyn ei chael hi, fe gewch chi gyfle teg i wneud gan y gweddill ohonom. Bwydai’r agwedd hon y sîn gerddoriaeth, wrth i Clwb Ifor groesawu bandiau newydd gyda breichiau agored ac i Tafwyl godi pabell arbennig i grwpiau ifanc. Ar ôl penderfynu’n wreiddiol i greu cerddoriaeth ddwyieithog, newidiodd CADNO eu meddyliau: ‘roedd y sîn Gymraeg yn garedig iawn i ni, ac felly roedd parhau i greu cerddoriaeth Cymraeg yn teimlo’n hollol naturiol.’

O un genheldaeth i’r nesaf: sicrhau’r dyfodol

Un o brif gryfderau naturiol y bandiau yw sut maent yn ymdrin ag ieuenctid mewn ffyrdd mor gerddorol aeddfed. Dileai hwn unrhyw deimladau ymysg yr ifanc fod byw yn y Gymraeg yn syniad afrealistig: wrth i bobl ifanc drafod profiadau ieuenctid gyda pharch trwy gyfrwng yr iaith, caiff y drws at fyw drwy’r Gymraeg ei agor iddynt.

Ystyriwch sengl newydd Hyll: Diwedd Gwanwyn Tragwyddol Max Rockatansky. Yma, cawn gyfuniad perffaith o hwyl y gerddoriaeth a gwirionedd y testun. Ysgrifennwyd y gân ar ôl i’r band orffen ysgol uwchradd, wrth deimlo holl addewidion yr Haf i ddod ond gan hefyd wybod fod addewid plentyndod o dragwyddoldeb wedi ei dorri. Gydag ailadroddiad y geiriau ‘dyma dy gyfle di’, cyfleai Hyll cyffro a braw’r dyfodol – teimlad sy’n perthyn i bob person ifanc.

Gyda’u sengl newydd nhw, Ludagretz, profai CADNO’r un llwyddiant ffres â Hyll. Cyfunai eu tonau electronig, harmonïau agos a llais naturiol Becca Hayes i greu rhyw flanced gerddorol gynnes sy’n eich amgylchynu gyda’r teimlad cyffyrddadwy o fod yn ifanc. Mae’r sain gyfoethog yn taro yn erbyn mynegiant y gân o fod yn gaeth yn eich oedran, gan eto gyfleu dwyochredd holl deimladau ieuenctid.

Trwy’r Sîn Gerddoriaeth Gymraeg caiff yr iaith ei throsglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf. Eleni daeth CADNO a Hyll yn dystiolaeth o’r patrwm hwn wrth gael eu harwyddo i Recordiau JigCal, dan arweiniad Mei Gwynedd. Fel aelod o un o fandiau mwyaf llwyddiannus y Sîn Roc Gymraeg yn y blynyddoedd diweddar, Sibrydion, gall y cerddor nawr drosglwyddo’i ddoethineb i ddyfodol y sîn. Ond efallai ei brif ddawn yw ei allu i gyfoethogi cerddoriaeth y bandiau heb eu newid, gan wybod mai’r ffordd orau i gael yr ifanc i wrando yw parchu’r hyn y maen nhw’n ei ddweud yn y lle cyntaf.

Gallwch ddilyn y bandiau ar Trydar – @CADNOband ac @Hyllband – neu hoffi eu tudalennau Facebook i glywed eu newyddion diweddaraf.

image4

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma