Atgofion o noson agoriadol Womex

4 Tachwedd 2013

Bu Catrin Siriol yn wirfoddoli yn Womex yr wythnos ddiwethaf. Dyma ei hatgofion o’r profiad.

VOLUNTEERS

Roedd dros 150 o unigolion wedi gwirfoddoli yn ystod yr Wyl

‘Dydw i ddim wedi gwirfoddoli ers blynyddoedd. A dweud y gwir ‘dwi ddim yn cofio’r tro d’wytha’ i mi wneud hynny. Y flwyddyn honno pan fu’sh i’n ysgrifenyddes Cymdeithas Lenyddol Pencaenewydd efallai?  Ta waeth, mi wnaeth Menter Iaith Caerdydd anfon cylchlythyr i’w holl aelodau yn holi am wirfoddolwyr i stiwardio yn ogystal â dyletswyddau eraill, yng Ngŵyl Womex rai wythnosau ôl.

I’r rhai ohono chi sydd wedi bod ar y lleuad yn ddiweddar gwell nodi yma mai Gŵyl Gerddoriaeth y Byd ydi Womex – cyfle i gantorion a cherddorion o bedwar ban berfformio a sgwrsio a chymdeithasu efo’i gilydd mewn un lleoliad.

‘Dwi wedi bod edrych ymlaen ers tro byd i’r ŵyl gyrraedd y brifddinas felly mi gynigiais fy enw i fod yn stiward.  ‘Doeddwn i ddim yn siŵr iawn be’ i’w ddisgwyl, ond wedi i mi glywed am y bwrlwm a oedd yn mynd i fod ym Mae Caerdydd, roeddwn i’n edrych ymlaen yn arw at gael bod yn stiward yn noson agoriadol Womex.

Rydw i’n un drwg am adael trefniadau hyd y funud olaf, ond y tro yma mi roeddwn i yng Nghanolfan y Mileniwm bron i ddeugain munud yn fuan. Mi gês fy nghyfeirio at yr ystafell lle’r oedd y genod yn disgwyl amdanom ni i gofrestru, derbyn bag Womex a oedd yn cynnwys cryno ddisgiau a llyfrynnau o bob cefndir posibl, a gwisgo crys-t yr Ŵyl.

Yna roedd gofyn i mi a’r dair arall oedd yn stiwardio hefo mi sefyll yn y cyntedd yn croesawu pawb a rhoi band ar arddwrn pob unigolyn oedd wedi talu i ddod i yno.

Mi roedd ‘na gymeriadau ymysg y gynulleidfa, ac mi geisiodd un dyn hyd yn oed ddod a’i gi i mewn i’r theatr! Yn anffodus, gwylio’r perfformiad o’r cyntedd efo’r gwirfoddolwyr oedd rhaid i’r hen Pero y tro yma. Roedd yn wych gweld a chlywed cerddorion Cymreig yn cyflwyno cerddoriaeth Gymreig a Chymraeg i’r gynulleidfa, er i mi, roedd y cyfan fymryn yn rhy draddodiadol ar brydiau.

WOMEX VOLUNTEERS

Ffrindiau newydd!

Daeth uchafbwynt fy noson i fel yr oedd pawb yn symud o’r theatr i’r parti nesa’ wrth lwyfan Glanfa neu ei throi hi am adra. A dyna fo. Robert Plant. Prif leisydd y band Led Zepplin. Yn sefyll o ‘mlaen i. Mae’r rhai sy’n fy adnabod i yn gwybod nad ydw i’n dawedog o bell ffordd ond y tro yma yr oll y gallwn i ei wneud oedd syllu yn geg-agored ar athrylith! Profiad na wna’i fyth ei anghofio. Biti na f’aswn i wedi cael digon o hyder i ddweud rhywbeth – unrhyw beth – wrtho fo. ‘Doedd hi’n wych o beth bod Caerdydd wedi cael y cyfle i ddenu cerddorion o’r safon yna i ddod i weld a mwynhau lleoliadau a digwyddiadau cerddorol y brifddinas.

Dwi’n hynod falch fy mod i wedi cael bod yn rhan o’r cyffro a chael y cyfle i wrando ar gerddorion na f’aswn i wedi eu gweld na’u clywed fel arall. Roedd y gwaith yr oedd Cyngor y Celfyddydau wedi ei wneud, yn ogystal â threfniadau cydlynwyr y gwirfoddolwyr yn wych, a dwi’n siwr bod offerynwyr, cantorion, technegwyr, a nifer o unigolion ar draws y byd am gofio’r flwyddyn y daeth y byd i ganu i Gaerdydd.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma