Arian am ddim? Pam bod Cytundeb Pinewood yn wael i Gaerdydd

18 Chwefror 2014

gan Alun Williams

Prynhawn dydd Llun mi glywson y newyddion gwych fod Stiwdios Pinewood yn dod i Gaerdydd, gyda actorion fel Matthew Rhys a Michael Sheen yn datgan eu cefnogaeth i’r prosiect fel cam pwysig i’r diwydiant ffilm yng Nghymru. Ar ben hynny, roedd y buddsoddiad gan Pinewood yn mynd i greu 2,000 o swyddi a £90 miliwn ar gyfer yr economi lleol. Wrth gwrs, dyna sut oedd yn cael ei gyflwyno, ond tan i chi weld manylder y cytundeb mi welwn rhwybeth sy’n codi cryn pryder.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu lleoliad ar gyfer Pinewood, sef yr hen Ganolfan Ynni ger Gwynllŵg sydd tua gwerth £6 miliwn i’w brynu. Ar ôl hynny, byddem yn gwario tua £1 miliwn arall i wneud y lle yn addas a chyfrannai Pinewood £800,000 arall ar ben hynny. Ond wedyn bydd y Llywodraeth yn rhoi £30 miliwn arall i Pinewood i fuddsoddi mewn nifer o gynhyrchiadau ar yr amod fod 40% yn cael ei ffilmio draw yng Nghymru.

Mewn geiriau eraill, am bob punt mae’r Llywodraeth yn buddsoddi dim ond 40c bydd yn aros yng Nghymru. A gan mai dim ond cytundeb pum mlynedd yw hi, mi fedrith Pinewood gerdded allan o Gymru gan dim ond gwario £800,000 – ond wedi ennill £37 miliwn o wariant mewn i’w cynyrchiadau. Mae’n glir i weld mai Pinewood fydd yn ennill fan hyn, nid y Llywodraeth – ac yn sicr nid y diwydiant cyfryngol lleol.

Nid hyn yw’r tro gyntaf i Pinewood ddatblygu y fath gytundeb.  Yn 2012, fe rhoddwyd £25 miliwn gan Lywodraeth Ynys Mannaw mewn cytundeb i geisio denu’r cyfryngau i’r ynys. Tri diwrnod cyn y datganiad gan Llwyodraeth Cymru am y cytundeb gyda Pinewood, cafwyd ffrae yn Senedd Mannaw ar ôl i’w phrif weinidog wrthod ateb cwestiynau ynglyn â beth digwyddodd i’r arian.

Hen arferiad o fewn cwmnïau cyfryngol yw manteisio ar gefnogaeth cyhoeddus gan addo bydd yn denu y diwydiant ac hefyd gwariant cysylltiedig, megis twristiaeth. Dechreuodd yn America, ble cynigodd nifer o daleithiau gytundebau i gwmnïau i ffilmio. Yn New Mexico, fe darparwyd â gostyngiadau mewn treth ac hefyd benthyciadau di-log ar gyfer cwmnïau ffilmio. Dyma pam wnaeth y ddrama Breaking Bad gael ei selio yn yr ardal ac nid oherwydd anghenion y stori a’r cymeriadau. Cynigiai dalaith Georgia i gwmnïau egwyliau treth ar gyfer unrhyw gynhyrchiadau werth mwy na $500,000 ac hyd yn oed cyfrannu 10% o’r gost os bydd yn hybu y dalaith yn uniongyrchol. Oherwydd hyn mae nifer o gwmnïau wedi sefydlu lleoliad ffilmio yna, yn cynnwys neb arall ond… Pinewood.

Mae’n anodd profi hefyd bod y fath arian sydd yn cael ei fuddsoddi gan lywodraeth yn dod yn ôl mewn trethi a gwariant. Am bob $1 y derbynodd dalaith Louisiana mewn gwariant gan gynhyrchiadau fe gollwyd $7 mewn egwyl trethi.

Oherwydd natur y diwydiant modern nid yw’n naturiol i ddweud bydd yna ganolfan ffilmio yn cael ei selio o gwmpas Caerdydd chwaith. Fel arfer, mae gwaith yn dibynnu ar lleoliad y cynhyrchiad unigol. Mae cyllido ffilm yn fusnes cymhleth lle nad yw cwmnïau yn gwybod os wneith y ffilm unrhyw elw. Hen jôc o fewn y busnes yw, ‘If you want to make a small fortune in the movie business you start with a larger fortune.’ Gwneith cwmnïau ddefnyddio pob dric er mwyn sicrhau eu bod yn lleihau risg ac i ennill gymaint o’u elw yn ôl.

Os tynnwch allan yr glitz, selebs a’r ddelwedd o Daniel Craig yn ffilmio James Bond ar strydoedd y Rhath, mi welwch ei fod yn fuddsoddiad gwael gan y Llywodraeth. Un sicr bydd arwain at golliant arian cyhoeddus ac adeilad gwag arall yng Nghwynllŵg ymhen pum mlynedd.

@aluneurig

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma