Arddangosfa newydd yn dathlu’r cyfrwng argraffu

29 Ionawr 2014

P r i n t

7  Chwefror – 1 Mawrth 2014

Cyflwyna gallery/ten Print, arddangosfa sy’n dathlu’r cyfrwng argraffu yn ei holl ffurfiau – o’r traddodiadol a wnaed a llaw i’r digidol.

Cynhwysa Print waith newydd gan 6 o artistiaid yr oriel, gan gynnwys John Abell, enillydd y wobr print yng nghystadleuaeth Artist y Flwyddyn Cymru 2013. Hyrwydda Abell ddulliau argraffu traddodiadol, gyda’i dorluniau pren cymhleth sydd ar raddfa fawr yn ennill canmoliaeth haeddiannol. 

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith newydd gan enillydd medal aur Eisteddfod 2012 Carwyn Evans RCA, Tom Kitchen, Pascal-Michel Dubois a’r gwneuthurwyr printiau Molly Goldwater a Molly Rooke RCA. Graddiodd Rooke o’r Coleg Celf Brenhinol gyda gradd meistr argraffu ac mae’n nodedig am ei thechneg o ffurfio naratifau newydd trwy drin delweddau y ffeindiai yn ddigidol.

Mae’r arddangosfa Print yn gyfle arbennig i brynu argraffiadau cyfyngedig a gwreiddiol gan artistiaid Cymreig sefydledig a’r rhai sy’n dod i’r amlwg, gyda prisiau yn amrywio o £60 – £850. Mae cynllun talu di-log Cyngor Celfyddydau Cymru, y Cynllun Casglu, ar gael.

Am fwy o wybodaeth am yr artistiaid gwelwch www.gallery-ten.co.uk

Llawr 1af 23 Windsor Place Caerdydd CF10 3BY

Twitter: @gallery_ten

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma