Arddangosfa Ffrwydrol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

12 Tachwedd 2015

Mae arddangosfa fawr newydd gan un o artistiaid cyfoes blaenaf Cymru yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn 14 Tachwedd.

Bydd Ffrwydrad Tawel: Ifor Davies a Dinistr Creadigol yn canolbwyntio ar ddiddordeb parhaus Ifor yng ngrym creadigol dinistr ac yn cynnwys paentiadau, cerfluniau, perfformiadau a mwy gan gwmpasu gyrfa’r artist o’r 1940au hyd heddiw.

Ifor Davies Anatomic Explosions

Ifor Davies Anatomic Explosions ©Ivor Davies

Fel artist, hanesydd celf ac ymgyrchwr mae Ifor Davies yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw byd celf Cymru ac yn dwyn ei ysbrydoliaeth o ddiwylliant a gwleidyddiaeth Cymru.

Daw’n wreiddiol o Dreharris ond mae’r cyn-ddarlithydd bellach yn byw ym Mhenarth wedi mwynhau gyrfa hir a thoreithiog yn y byd celf weledol.

Yn 2002 enillodd Fedal Aur Celf Gain Eisteddfod Tyddewi ac ers 2003 mae Gwobr Ifor Davies yn cael ei chyflwyno am waith sy’n cyfleu’r frwydr dros Iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru yn Arddangosfa Agored Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Nid arddangosfa adolygol draddodiadol yw Ffrwydrad Tawel ond golwg ar ddiddordeb Ifor yng ngrym creadigol dinistr.

Dyma’r arddangosfa fwyaf erioed yng Nghymru o waith artist unigol cyfoes, ac er bod Ifor Davies wedi arddangos ei waith yn helaeth, mae Ffrwydrad Tawel yn cynnwys cyfresi o weithiau nas gwelwyd am hanner canrif a mwy.

I ddysgu mwy am yr arddangosfa, ac am weithgareddau cysylltiedig, ewch i wefan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Llun pennawd: Hunan Bortread ©Ivor Davies

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma