Arddangosfa aeafol yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru

18 Tachwedd 2013

Mae Felt Mistress (sef Louise Evans) a Jonathan Edwards wedi creu The Hiber-Nation; dyma griw o gymeriadau ffelt sy’n dod i’r Ganolfan dros y Nadolig i chwilio am gysgod rhag gaeaf caled Cymru.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gweithiau celf sydd wedi’u creu yn arbennig. Bydd dros 20 o greaduriaid ffelt sydd wedi’u gwnïo â llaw yn ogystal â chasgliad o luniau dyfrlliw, acrylig ac inc sy’n dangos y cymeriadau a’r coetir sy’n gartref iddyn nhw. Bydd hefyd ieti 8 troedfedd yn sefyll yn ein cyntedd yn barod am gwtsh.

Gobeithio y gallwch ymuno â ni ar gyfer noson agoriadol The Hiber-Nation ar Rhagfyr 5ed rhwng 6.00 a 8.00yh. Bydd GULP yn perfformio’n fyw ar lwyfan Glanfa a bydd cyfle i chi gwrdd â’r artistiaid. 

Bydd yr arddangosfa ar agor o 6 Rhagfyr 2013 – 5 Ionawr 2014.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma