Amser am fwy o gerddoriaeth Cymraeg yng ngwyliau Prydeinig ?

25 Gorffennaf 2015

Bethan Elfyn, rheolwr prosiect Gorwelion a chyflwynydd BBC Radio Wales sy’n ateb cwestiynau disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf am ddyfodol cerddoriaeth Cymraeg yng ngwyliau Prydeinig..

Ydy bandiau Cymraeg yn cael digon o sylw yng ngwyliau Prydeinig ee Glastonbury / Green man ?  Bethan Elfyn

Wrth i wyliau cerddorol ddod yn fwy pwysig, mae mwy o sylw bellach ar lle mae bandiau yn chwarae dros yr haf, felly mae yna fwy o gystadleuaeth. Mae ‘na fwy o wyliau bach lleol lle mae bandiau yn gallu chwarae, ond mae cael slot ar y gwyliau mawr yn anodd iawn – yn gyffredinol mae angen bod y band wedi arwyddo efo ‘booking agent’/ sef cwmni sydd yn hyrwyddo nhw yn fyw ar hyd y flwyddyn, neu fod gyda nhw cyswllt da iawn efo’r ŵyl.

 Mae gŵyl fel Greenman yn gofyn i drefnwyr lleol i drefnu rhai agweddau o’r ŵyl, fel y ‘settlers week’, bandiau Cymraeg fydd yn chwarae y rhan yma o’r ŵyl, a hefyd y Greenman Rising stage – ond prin iawn yw’r slots, ac mae ‘na chydig o ailadrodd yn gallu digwydd weithiau o ran pwy sy’n chwarae’r ŵyl o ran y bandiau Cymraeg.

Hoffwn weld mwy o fandiau yn gwneud digon o ymgais i chwarae’r holl wyliau cerddorol sydd o gwmpas y wlad, fel Tramlines, Camp Bestival, Boomtown, End of the Road, Troyfest, 2000 Trees ac yn y blaen, sydd lot fwy annibynnol ac yn le da i gael cynulleidfa newydd i’w cerddoriaeth. 

Dwi’n meddwl bod gormod o bwyslais ar Glastonbury a gormod o sylw ar yr ŵyl yn gyffredinol – mae nifer o lefydd gwych arall i chwarae.

Os na le i fwy o bandiau Cymraeg perfformio mewn gwyliau Prydeinig ? 

Gweler ateb uchod – mae angen i’r artistiaid neud mwy o ymchwil ac ymdrech hefyd, ond y gyfrinach fawr yw cael Booking Agent da, nhw fydd yn bwcio llwyfannau da ichi wedyn. Weithiau mae artistiaid Cymraeg yn disgwyl i bobl ddod atyn nhw i gynnig llefydd i chwarae!

Roedd nifer o fandiau Cymraeg yn chwarare yn Tafwyl – wyt ti’n meddwl dyle fod mwy o wyliau cerddoriaeth fel hyn yng Nghymru neu yng Ngaherdydd 

Mae Tafwyl yn ŵyl wych ac unigryw – ac mae’n wych gweld hi’n tyfu – ond ŵyl ‘Gymraeg’ ydi Tafwyl yn gyntaf, dyna’r flaenoriaeth. Mae’r gerddoriaeth yn cael ei drin yn gefndirol wrth i deuluoedd a phlant chwarae, bwyta ac yfed tra bod rhan fwyaf o’r bandiau yn chwarae. Bydde’n wych gweld Gŵyl Fawr Gerddorol yn dod i Gymru – yr agosaf sydd gyda ni ydi Festival No 6, a Greenman ac mae rhain yn eithaf excliwsif o ran torf hefyd.

Bues i’n gweithio gyda’r X Festival yn ddiweddar, gŵyl fawr gyfoes yn Bute Park, tu ôl i’r castell, ac roedd hi’n wych gweld rhywbeth mor ifanc yr olwg yn cael cartref yng Nghymru. Trueni bod Wakestock wedi gorffen yn y Gogledd.

Mae prosiect Gorwelion y BBC yn hybu cerddoriaeth Cymraeg a di Gymraeg – ond beth yn union mae’r proseict yn neud ?

Ni’n cefnogi artistiaid mewn 3 prif ffordd:

1)     Dewis 12 artist fydd yn serennu yn holl weithgaredd Gorwelion drwy’r flwyddyn.

2)     Ni’n rhoi llwyfannau ymlaen mewn gwyliau cerddorol yng Nghymru, yn Lloegr ac yn rhyngwladol.

3)     Mae’r Launchpad Fund yn system grantiau bach ar gyfer artistiaid, fel bod nawdd o £50,000 ar gael i artist newydd neu fand ifanc.

 O fewn y strwythur yma, ni’n chwilio am bob math o gyfleoedd i’r artistiaid, ni’n hyrwyddo nhw ar-lein, ar y radio ac ar deledu Cymreig, ac ni’n chwilio am gysylltiadau yn y diwydiant cerddorol i weithio gyda’r bandiau.

Wyt ti’n meddwl bod angen mwy o gefnogaeth eto ar gyfer bandiau Cymraeg

Mae angen mwy o addysg am y byd cerddorol, sut i hyrwyddo ei hunain ac yn y blaen. Dyle mwy o artistiaid fynd i wrando ar bobl yn siarad mewn gwyliau fel Great Escape, lle mae pobl yn trafod y byd cerddorol, mae hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn.

Erbyn hyn wyt ti’n meddwl y gall bandiau Cymraeg llwyddo wrth ganu ond yn y Gymraeg ? 

Dydi Gorwelion ddim just yn gweithio efo bandiau iaith Gymraeg, ond rhai Saesneg o Gymru hefyd – ac mae hyn wedi bod yn wych gweld nifer o bobl o bob cefndir yn cyd-weithio efo’i gilydd.

Wedi dweud hyn, dwi’n meddwl bod hi’n bosib inni weld yr iaith yn cael lot mwy o sylw yn rhyngwladol ac mae cerddoriaeth gyfoes yn ffordd dda o allforio ein celfyddyd.

Er enghraifft, yn ystod yr wythnosau mae’r artist Gwenno wedi cael sengl iaith Gymraeg wedi ‘playlistio’ ar BBC 6 music, ond i weld hyn yn digwydd, mae angen label, management, tîm hyrwyddo a cherddoriaeth wych!

Bethan Elfyn, Rheolwr Priosiect Gorwelion, a Cyflwynydd ar BBC Radio Wales bob nos Sadwrn, 7-10pm

http://www.bbc.co.uk/programmes/b00t2f6s

 

 

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma