Pamela Raith

Adolygiad Saturday Night Fever: Gwledd o ganu a dawnsio

28 Tachwedd 2018

Gan Llion Carbis

Lluniau gan Pamela Raith

Heb amheuaeth, mae’r ffilm Saturday Night Fever yn cael ei gydnabod fel un o glasuron hanes sinema, ac fel ffan enfawr o’r pictiwr, roeddwn i’n ychydig yn bryderus i weld sut byddai’r ffilm yn cael ei drawsnewid o’r sgrin fawr i’r llwyfan. Wedi treulio’r noson yng Nghanolfan y Mileniwm yn gwenu, ac yn symud yn ddi-baid, doedd dim sail i fy mhryderon.

Stori ydyw sy’n adrodd hynt a helyntion bywyd Tony Monero – sydd yn cael ei bortreadu’n ardderchog gan John Travolta yn y ffilm, a Richard Winsor yn y sioe. Ceir mewnwelediad clir o fywyd dyn ifanc ym Mrooklyn yn y 1970au, sydd ond yn llwyddo i osgoi pwysau bywyd a’i deulu wrth ddawnsio yn y disco yng nghlwb Odyssey 2001.

Richard Windsor (Tony)

Richard Winsor (Tony)

Am ffilm sy’n llwyddo i gwmpasu sawl thema dreiddiol, mae rhaid canmol y cynhyrchiad am aros yn ffyddlon i’r stori wreiddiol, gwrogaeth llwyr deilwng ydoedd. O’r cychwyn cyntaf, mae’r dawnsio yn egnïol ac yn fywiog, tra bod y llwyfanni yn hynod o drawiadol.

Roedd presenoldeb Edward Handoll, Alastair Hill a Matt Faull oedd yn canu caneuon y brodyr Gibb (Bee Gees) yn benderfyniad ardderchog, a llwyddodd i helaethu mwynhad y gynulleidfa.  Ynghyd a’r canu, roedd cael band ar y llwyfan trwy gydol y sioe yn llwyddo i blethu’r dawnsio a’r canu i greu perfformiad llwyr gofiadwy.

 

Cemeg credadwy

Cafodd prif gymeriadau’r sioe eu portreadu yn wych, yn enwedig y cymeriad Anette sy’n treulio mwyafrif o’r ffilm yn ceisio ennill edmygedd Tony, roedd ei rhwystredigaeth a chariad am y prif gymeriad yn deimladwy trwy gydol y perfformiad. Yn gyfatebol, roedd cemeg credadwy iawn yn cymeriadu perthynas Tony a Stephanie, prif gymeriadau’r sioe, ac roedd y ddau yn dawnsio’n aruthrol.

I un sydd yn dwli ar y ffilm, hyfryd ydoedd bod dyfyniadau nodedig ohono’n cael eu cynnwys yn y perfformiad, ynghyd â rhai o olygfeydd a dawnsfeydd fwyaf cofiadwy’r ffilm. Roedd hyd yn oed y posteri ar wal stafell wely Tony yn adlewyrchu’r ffilm, sy’n dangos awydd y cynhyrchiad i aros yn deyrn at wreiddiau’r ffilm.

Kate Parr (Stephanie) a Richard Winsor (Tony)

Kate Parr (Stephanie) a Richard Winsor (Tony)

Serch hynny, nid copi uniongyrchol ydoedd, onid perfformiad a lwyddodd i gyfleu uchafbwyntiau’r ffilm yn dda iawn, tra hefyd yn cwmpasu rhai o brif nodweddion sioeau theatr. Cafodd tair ‘solo’ eu cynnwys, ynghyd â rhai ychwanegiadau i’r albwm byd enwog megis Tragedy a’r gan wreiddiol, Nights on Broadway.

Dawnsio cyffrous

Yn weledol, y dawnsio a’r tirluniau amrywiol sy’n llwyddo i neud ysioe i deimlo mor gyffrous, a rhaid canmol ansawdd y dawnsio yn y cynhyrchiad a oedd yn eithriadol o uchel. Yn yr un modd, roedd defnydd y llwyfan, a thirluniau megis Manhattan, a’r defnydd o ddrychau i gyfleu’r clwb nos a’r stiwdio dawnsio yn hynod o glyfar, wedi creu profiad trawiadol iawn.

Ar adegau roedd rhai wedi ei chael hi’n anodd cynnal acenion Brooklyn, ac o bosib nid oedd dwyster perthynas Tony a’i rhieni cystal â’r ffilm, ond perfformiad anhygoel ydoedd a oedd yn cynnig toreth o bleser. O’r dawnsio disglair, i’r canu cywrain, profiad llwyr arbennig ydoedd a llwyddodd i gael pob unigolyn o’r gynulleidfa i godi ac i symud llawn llawenydd ar ddiwedd y perfformiad. I rai sydd yn pendroni gweld y sioe, ewch amdani; ni fyddwch yn difaru!

Mae Saturday Night Fever ymlaen tan Rhagfyr 1af. Am fwy o wybodaeth a thocynnau ewch i’r wefan

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma