Adolygiad Arddangosfa Artes Mundi

28 Hydref 2014

gan Huw Onllwyn

Os ydych o’r farn fod datblygiad y byd celf wedi gorffen adeg Constable, a bod gwaith Picasso a Damien Hurst yn ‘crap’, edrychwch i ffwrdd nawr.

Bob yn ail flwyddyn cynhelir cystadleuaeth ac arddangosfa Artes Mundi yng Nghaerdydd. Gyda gwobr o £40,000, mae hwn yn ddigwyddiad go bwysig ym myd y celfyddydau – a gallwn fod yn falch o hynny.

Mae Artes Mundi yn cefnogi artistiaid cyfoes sy’n delio ‘da realiti bywyd a phrofiadau unigolion ar draws y byd.

Ac mae hynny’n beth da, onid yw? Un o’r pethau bendigedig am y ddynol ryw yw ein gallu i feddwl yn greadigol ac i arbrofi. I feddwl am ein byd a cheisio deall a dehongli profiadau bywyd. A phwy sydd i ddweud na ddylai artistiaid wneud hynny? Fel gyda pob maes arall, mae ambell i ddehongliad yn gallu cydio y ein dychymyg – ac ychwanegu at ein gwerthfawrogiad o fywyd. Ac mae eraill yn cwympo ‘chydig yn fflat – a dyna a welir yn arddangosfa Artes Mundi.

Er hynny, mae’r sioe yn un hollol penigamp a gwefreiddiol. Rhwng heddiw a mis Chwefror 2015, mae gennym y cyfle i weld gwaith rhai o artistiaid mwyaf creadigol y byd i gyd. Yma – yng Nghaerdydd…

Ond dyma ambell i rybudd i chi:

Mae angen amser i werthfawrogi’r gwaith. Gyda sawl darn o waith fideo (un yn para dros awr) fe fydd angen i chi fuddsoddi hanner diwrnod, o leiaf, os ydych am werthfawrogi’r cyfan.

Mae’r sioe ar wasgar (Ffotgallery Penarth, y Chapter a’r Amgueddfa Genedlaethol)

Mae yna risg y bydd ambell i berson artistig yn ymweld a’r arddangosfa. Fe fydd y pobl tenau yma, wedi eu gwisgo mewn dillad hynod o ffasiynol, yn eich gwneud i deimlo’n dew, blêr a ‘frumpy.

Mae un darn, sy’n ystyried yr ymosodiad ar westy’r Taj Mahal Palace yn Mumbai yn dangos delweddau graffig a gofidus.

I mi, dyma oedd yr uchafbwyntiau:

O bell ffordd (ac yn haeddu’r wobr o £40,000, yn fy marn innau, fel arbenigwr celf byd enwog) yw darn gan Ragnar Kjartansson (o Rekyavik). Sef ‘The Visitors’ (wedi ei enwi ar ôl albwm olaf Abba – but don’t let that put you off). Mae hwn i’w weld yn y Ffotogalery. Darn ar fideo ydyw, wedi ei ffilmio yn hen dy crand teulu’r Astors, yng nghefn gwlad Efrog Newydd. Mae perchennog y tŷ (un o’r Astors) yn cefnogi cymuned bohemaidd ac, yn y darn, fe ddangosir naw golygfa ar naw sgrin enfawr o’ch cwmpas. Ar bob sgrin, mae rhywun yn chwarae offeryn (piano, soddgrwth, gitâr…) tra’n cydganu’n dyner iawn am yr effaith bositif mae menywod (ac ochr benywaidd dynion) yn ei gael ar ein byd. Roeddwn am fod yno gyda nhw – a chael yr unigolion yma’n ffrindiau i mi! Mae’r gwaith camera’n fendigedig, gyda’r hen dy yn serennu gymaint â’r gan hyfryd a’r artistiaid talentog ar bob sgrin. Rwyf am fynd yn ôl i’w weld eto. Ac eto.

O ran ysgytiad i’r meddwl, rhaid canmol darn gan Karen Mirza a Brad Butler (‘The Unreliable Narrator’, yn y Chapter), sy’n adrodd hanes yr ymosodiad yn Mumbai yn 2008 – tra’n ceisio deall bywydau’r dynion ifanc a aeth yno i saethu bobl ar hap. Ofnadwy oedd clywed arweinydd y grŵp (ar ei fobile – ‘doedd e ddim yn y gwesty) yn eu hannog i saethu, i ladd, i ddefnyddio’i grenades ac i gychwyn tân. Ac yna, un o’r dynion ifanc, wedi ei saethu, yn esbonio fod yr arweinydd wedi dweud y bydd arian mawr yn mynd i weddill ei deulu wedi iddo aberthu ei fywyd. ‘Roedd yn anodd gweld unrhyw ffin rhwng realiti, y CCTV o’r gwesty a gwaith yr artist. Ond erchyll, erchyll, erchyll yw’r darlun a gyflwynir. ‘Rwy’n teimlo’n sâl eto, wrth sgwennu hwn.

Yn yr Amgueddfa mae darn diddorol gan Renzo Martens (a’r Institute for Human Activities). ‘Rwy’n amau fod Mr Martens yn byw ar adain chwith y sbectrwm gwleidyddol a, chwarae teg iddo, cafodd y syniad (da) o ddysgu gweithwyr ffermio ffa coco yn y Congo i gerflunio. Wedi iddynt greu cerflun o’i pennau, crëwyd sgan digidol. O’r scan, crëwyd mold ac, i’r mold (yn yr Amgueddfa) mae dau ‘chocolatier’ o’r Iseldiroedd yn tywallt siocled o’r Congo. Mae modd i chi brynu pen siocled yn siop yr Amgueddfa am £39.95 – ac mae tua hanner yr arian yn mynd i’r gweithiwr perthnasol – sef mis o gyflog iddo ef neu hi. Mae hwn mwy fel prosiect datblygu cymunedol na gwaith celf, efallai – ond mae’r syniad o ddefnyddio celf fel ffordd o wella cymuned yn sicrhau (go debyg) fod hwn yn haeddu ei le yn Artes Mundi. Peth hurt, gyda llaw, yw dangos y ffilm am y prosiect yn y Chapter, tra’n dangos y gwaith celf yn yr Amgueddfa.

Darn arall o ddiddordeb i mi oedd gwaith Sanja Ivekovic yn y Ffotogallery. Lluniau cyfoes o modelau prydferth iawn – ond gyda enwau menywod gwrth-ffasgaidd a gafodd eu dienyddio yn Croatia yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ychwanegwyd geiriau ar waelod pob llun, megis “Tortured and executed: age at time of death 22”. Er yn delio ‘da pwnc trist a difrifol mae hwn, yn anffodus, yn cwympo i’r categori ‘subtle as a flying brick’. ‘Roeddwn hefyd o’r farn fod defnyddio modelau prydferth heb weithio. Yn hytrach na phwysleisio erchylldra’r amser, roedd yn creu ‘disconnect’ enfawr rhwng y weithred a’r ddelwedd. Gymaint, yn wir, nes i Sanja llwyddo i wanhau’r neges yn ormodol. Mwy ysgytiol o lawer fyddai lluniau o’r menywod go iawn – gyda disgrifiad mwy llawn o’i dioddefaint.

Gwell o beth oedd ei darn ‘The Disobedients (The Revolutionaries)’. Dangosir hen lun o milwr Natsiaidd efo asyn (darn o bropaganda’n cymharu’r asyn efo pobl stwbwrn nad oedd yn barod i erlid yr Iddewon). Yna, mewn cabinet, rhes o ‘cuddly toys’ – pob un yn asyn. Rhoddwyd enw i bob asyn (megis Primo Levi) a gyferbyn iddynt, ddisgrifiad o waith y person hwnnw yng nghyswllt sicrhau hawliau dynol a dod i ben ag erlid pobl oherwydd eu hil. Wel, I get the point, ond i mi roedd yna beryg bod y defnydd o’r cuddly toys yn israddio statws Primo Levi a’r ymgyrchwyr eraill, yn fwy na throi yn erbyn y Natsïaid eu defnydd o’r ddelwedd.

Mwynheais goridor cardfwrdd anferth Carlos Bunga (Exodus). Mae gwaith Theaster Gates yn ddigon diddorol. Ychydig yn bitw a di-ddychymig oedd gwaith Sharon Lockhart. Difyr iawn oedd ‘Failiure’, gan Renata Lucas. Doniol a da oedd ‘You are the Prime Minister’, gan Karen Mirza a Brad Butler (a dyna enfawr oedd y gwrthgyferbyniad rhwng hwn a’u darn arall, am Mumbai). Methais weld ‘Continuity’ (Omer Fast) – ond mae’r sioe yn werth ei weld mwy nag unwaith.

Digon i feddwl amdano. Digon i’w werthfawrogi. Darnau gwych. Darnau ddim cystal. Perffaith!

Ewch i’w weld.

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma