Adferiad adeilad eiconig y Bae gam yn nes

25 Ionawr 2015

Newyddion da i bobl sy’n dwli ar dreftadaeth pensaerniol Caerdydd- mae un o adeiladau eiconic y Bae wedi cael caniatâd cynllunio llawn i’w adnewyddu.

Mae’r adeilad Fictorianaidd drws nesaf i’r Custom House reit wrth ymyl y morglawdd yn Marina Penarth wedi bod yn adfeilio ers dros 30 mlynedd.

Cadarnhaoedd perchennog y ddau adeilad, Nataniel Martinez bod ei gwmni, JMD Restaurants yn bwriadu adfer yr adeilad a throi’n westy gyda 55 ystafell wely a chaffeteria/bar yn edrych dros y Bae.

DSC_0520Cafodd yr adeilad morwrol ei adeiladu ym 1865 mewn  arddull  eithaf Ffrengig. Roedd hwn a’r adeiliad drws nesaf, sydd nawr yn gartref i dai bwyta El Puerto a La Marina, yn swyddfeydd Tollau EM ar un adeg pan oedd  llongau o bedwar byd yn llenwi’r porthladd.

Ond nid dyma’r tro cyntaf i’r adeilad gael ei adfer- deng mlynedd ar hugain yn ôl roedd yr adeilad yn fflatiau a siopau ar y llawr gwaelod. Bu sawl su yn yr wythdegau ynglŷn â dyfodol yr adeilad gan gynnwys sefydlu cartref Cymreig i’r  Tywysog Charles a’i briod, Diana. Ond ddaeth dim cynlluniau pendant i’r fei tan i deulu’r Martinez brynu’r Custom House ym 2001. Adnewyddwyd hwn a throi’n dau fwyty poblogaidd- El Puerto ar y llawr isaf a La Marina ar y llawr cyntaf.

Tŷ bwyta El Puerto yn boblogaidd

Tŷ bwyta El Puerto yn boblogaidd

Mae cynlluniau a gyflwynwyd i Gyngor Bro Morgannwg yn cadarnhau bydd ffasâd yr adeilad yn cael ei adfer i’w gyflwr gwreiddiol gyda’r tô wedi’i orchuddio gyda  llechi Cymreig neu Sbaeneg ,  a rhoddir caniatâd cynllunio ar yr amod hyn i sicrhau bod y ddau safle yn gyd- weddu.

Mae  Mr Marinez yn ffyddiog y bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen ym 2016 er mwyn agor yn 2018, ond mae na bryderon ariannol. Fydd y cynllun yn costio tua £7m ond dywed Mr Martinez bod y banciau wedi rhoi gwerth o £5.5m ar y safle, felly fydd yn rhaid i’r cwmni chwilio am arian ychwanegol i bontio’r gagendor. Er ei fod mewn cyfweliad ag Wales Online, yn canmol cyngor y Fro, mae’n dweud bod ymateb Cyngor Caerdydd, Visit Wales a Cadw wedi bod yn eithaf llugoer.

Rhaid aros felly i weld a gaiff y freuddwyd ei  gwireddu.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma