Addysg Gymraeg yn ardal Grangetown

22 Gorffennaf 2013

Pwll Coch logo

Mae Michael Jones, sy’n aelod blaenllaw o RhAg, (Rhieni dros addysg Gymraeg) yn poeni am ddyfodol addysg Gymraeg ardal Grangetown. Dyma ei sylwadau am gefndir y ffrae rhwng rhieni lleol a chyngor Caerdydd:

Yn  2006 roedd 106 cais am addysg Gymraeg yn ardaloedd Canton, Pontcanna a Grangetown ac ond 90 lle (Treganna -30; Pwll Coch-60). Methodd rhai plant â chael lle mewn addysg Gymraeg a chafodd eraill eu anfon i ysgolion eraill eithaf pell i ffwrdd, Coed-y-gof, Pencae ac eraill.

Addawodd y Prif Swyddog Addysg, Chris Jones, i osgoi trychineb fel hyn yn y dyfodol a pherswadiodd y Cyngor i agor 4 dosbarth cychwynnol yn 2007, un ohonynt yn Grangetown sef Tan yr Eos mewn ystafelloedd tu few i Ysgol Ninian Parc. Tyfodd Tan yr Eos ar unwaith ac am y 6 mlynedd i’r ysgol fod ar agor mae wedi derbyn rhwng 25 a 30 plentyn y flwyddyn ac yn awr bydd y plant hyn o’r diwedd yn symud i adeilad newydd Treganna fydd yn derbyn 90 plentyn bob blwyddyn.

Erbyn 2010 roedd yn amlwg nad oedd y 120 lle ar gael rhwng Treganna, Pwll Coch a Thanyreos yn ddigonol i gwrdd â’galw yn y dalgylchoedd a na fyddai adeilad newydd ar gael I dderbyn Treganna-Tanyreos tan 2013. Aeth y sir i ymgynghori â rhieni Pwll Coch ar y syniad o ymestyn Pwll Coch am 2/3 blynedd i dderbyn 3 yn lle 2 ffrwd hyd nes y byddai Treganna ar ei safle newydd ac y byddai agor trydedd ysgol un ffrwd ar safle newydd yn Grangetown yn bosibl. Rhoddwyd addewidion i rieni Pwll Coch taw estyniad dros dro fyddai hwn ac y byddai Pwll Coch yn mynd yn ôl i fod yn ysgol 2 ffrwd. Doedd y rhieni ddim yn hapus ond gyda llawer o rwgnach fe dderbynion nhw yr anhepgorol. Dim ond cabanau dros dro i dderbyn y dosbarthiadau ychwanegol trefnodd y sir heb newid maint y neuadd na’r ffreutur sy wedi achosi gwasgfa annerbyniol.

Ceisiodd y Sir gynnwys y drydedd ysgol yn Grangetown yn ei rhaglen am 21st Century Schools a fe gynhwysodd y Llywodraeth yr Ysgol newydd yn y rhan gyntaf o’r cynllun gan addo tua £6M iddi.

O 2011 felly bu 150 lle ar gael ar gyfer addysg Gymraeg yn nalgylch Treganna=Pwll Coch a fe dderbyniwyd 136 plentyn. Erbyn 2012 derbyniwyd 147 ac eleni y rhif erbyn hyn yw 154 (gyda thebygrwydd yr aiff y rhif lan eto i dderbyn rhai o’r 10 plentyn nad oedd wedi cael lle erbyn dechrau Gorffennaf). Mae plant yn dod i ysgol Gymraeg â llefydd gwag o gyfeiriadau pell iawn. Yn ystod y dyddiau diwethaf rwyf wedi clywed am blentyn o deulu bur enwog yn byw yn nalgylch Glanmorfa heb le yno sydd wedi derbyn lle ym Mhwll Coch.

Er syndod I RhAG a heb rybudd I’r mudiad cyhoeddodd y Sir papur ymgynghorol yn anelu at ymestyn hyd yr amser y byddai trydedd ffrwd ym Mhwll Coch am gyfnod amhenodol ac yn dweud y byddai agor y drydedd ysgol yn cael ei osod yn ôl ymhellach I’r dyfodol yn sgil problem dod o hyd I safle addas. Ni soniwyd am estyniad nac i neuadd PC neu i’r ffreutur serch ychwanegu rhagor o ddosbarthiadau. Bu ymateb y rhieni yn ffyrnig ar lafar a mewn 179 llythyr wrthwynebus. Dim ond 17 oedd dros y cynllun.

Ysgrifennodd RhAG at y Cyng Julia Magill yn ceisio sicrwydd nad oedd bwriad tynnu’r ysgol newydd o gynllun 21st Century Schools ac ym mis Mai fe gafwyd gadarnhad fel y ceisiwyd.

Nawr ychydig cyn diwedd tymor ar gyfer gwyliau’r haf a pethefnos wedi cyhoeddi canlyniad yr ymgynghori arall ar 4 ysgol arall dyma gyhoeddi gofnod o dan teitl camarweiniol sef o fwriad i weithredu i gwrdd â’r galw am addysg Gymraeg yn hysbysu bwriad y sir i:-

1 Tynnu nôl o’r cynllun i agor ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown yn 2015 neu unrhyw bryd arall, i ddefnyddio’r safle a ffeindiwyd I’r ysgol Gymraeg ar gyfer agor ysgol newydd Saesneg ac i gywasgu trydedd ffrwd parhaol mewn ar safle Pwll Coch yn Lecwydd i ba le y gall plant Grangetown drafaelu yn lle mynychu ysgol leol fel sydd wedi digwydd ar safle Tanyreos ers 2007.

2 Mae hyn oll ar sail ystadegau hollol wallus yn tangyfrif yn nifer mewn addysg Gymraeg

ar hyn o bryd a felly yn rhagdybio galw llawer yn llai yn y dyfodol. Mae hyn yn bwysig nid yn unig o leihau y rhifau Cymraeg ond hefyd o cwyddo’r rhifau Saesneg am fod modd gwybod y cyfanswm yn weddol sicr. Rwyf wedi cyfrif 14 gwall yn y ddogfen sirol

3 Dyw rhifau’r sir ddim yn gyson yn eu hunain. Dywedir yn un fan y bydd prinder o 72 lle cyfrwng Saesneg yn yr holl ardal erbyn 2015, a phrinder 31 lle cyfrwng Cymraeg. Mewn man arall fe ddywedir y bydd prinder cyfrwng Saesneg erbyn 2015 yn Grangetown oni weithredir. Mae awgrym o weithredu fel hyn:-

(i) Defnyddio adeilad Tanyreos i dderbyn 30 plentyn. (Iawn)

(ii) Newid ffiniau dalgylchoedd i gyfeirio 15 o Grangetown i ysgolion Canton/Glanyrafon lle mae 60 lle gwag. (Iawn)

(iii) (Nid ydynt yn dweud bod hyn yn gadael ond 12 plentyn heb le o’r cyfanswm o 57, a noder fod y rhifau cyfrwng Saesneg wedi’u chwyddo o 20)

4 Er tegwch I’r sir meant yn awry n derbyn y bydd angen codi adeiladau parhaol ar gyfer y trydedd ffrwd barhaol gyda neuadd fwy a ffreutur ac ati

Mae’r cofnod yn ymdrech i gyfiawnhau amddifadu addysg Gymraeg o ysgol newydd leol ar gyfer Grangetown ac i arallgyfeirio £6M o arian llywodraeth Cymru sydd wedi’I glustnodi i addysg Gymraeg ers 3 blynedd.

Rwyn ofni bod hwn yn deillio o eiddigedd bod addysg Gymraeg yn meddu ar 2 ysgol fodern mewn ardal lle mae addysg Saesneg mewn ysgolion o oes Fictoria i gyd. Nid oes cof bod addysg Gymraeg yn berffaith fodlon derbyn adeiladau Fictorianaidd ond wedi cael eu troi i ffwrdd gyda dirmyg. Mae gwrthwynebwyr addysg Gymraeg wedi hau a nawr yn anfodlon i fedi.Yn bersonol fe fyddwn yn fodlon derbyn meddiant o Ysgol Ninian Park ar gyfer addysg Gymraeg a chaniatau I blant addysg Saesneg gael yr adeilad newydd os bydd hynny yn dileu eiddigedd. Yn Ysgol Ninian Park dechreuodd addysg Gymraeg yng Nghaerdydd yn 1949 a fe fyddai addasrwydd I ddychwelyd I’n gwreiddiau, ond mae rhaid inni gael ysgol lleol I gwrdd â’r galw a nid ffrwd arall yn Lecwydd.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma