Addysg Gymraeg: Galw am weithredu gan y to hŷn

4 Tachwedd 2013

Mae llawer wedi newid yn y 50 mlynedd ers sefydlwyd Cronfa Glyndŵr i hyrwyddo addysg Gymraeg, meddai Bryan James, ond mae’n rhaid i’r to hŷn wneud mwy i sicrhau dyfodol y sefydliadau a’r hawliau rydym wedi eu hennill.

Ar nos Sadwrn y 12fed o Hydref daeth cynulleidfa gref ynghyd yng Nghlwb Golff Radur i ddathlu hanner can mlwyddiant sefydlu Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg. Rhwystredigaeth ynghylch amharodrwydd yr Awdurdodau Addysg i ymateb i’r galw am addysg Gymraeg a barodd i Trefor a Gwyneth Morgan sefydlu’r gronfa ym 1963. Wrth gyflwyno’r gŵr gwadd, yr Athro Richard Wyn Jones, awgrymodd Cadeirydd y Gronfa, Gerald Latter, nad oedd pethau wedi newid rhyw lawer yn hynny o beth.

Er bod elfen o wirionedd yn hynny, mynnodd yr Athro Richard Wyn Jones, bod llawer iawn wedi newid, mewn gwirionedd. Erbyn hyn mae agwedd pobl tuag at y Gymraeg dipyn yn iachach, gydag 80% o bobl Cymru am weld mwy yn cael ei wneud dros yr iaith. Mae’r twf mewn addysg Gymraeg yn ffenomen ryfeddol, meddai, ond cytunodd â’r Cadeirydd bod her enfawr yn ein wynebu o hyd, sef ymgyrch ehangach o blaid y Gymraeg.

Her lawn mor ddifrifol â sicrhau’r ddarpariaeth, meddai Richard Wyn Jones, yw gwarchod safon yr iaith. Gwelir tystiolaeth o hyd ac o hyd bod yr iaith yn breuo, a mwy a mwy o eirfa Saesneg yn llithro i mewn i’r iaith lafar. Mae’r dirywiad yn safon iaith llawer o’n pobl ifanc yn destun pryder. Un o’r heriau mwyaf yw’r newid technolegol sy’n digwydd ym myd cyfathrebu. Mae yna beth darpariaeth Gymraeg  ond Saesneg yw iaith y gemau technolegol sydd mor boblogaidd, ac mae eu dylanwad yn aruthrol.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae consensws gwleidyddol cryf, erbyn hyn, o blaid Cymru ddwyieithog, agwedd sy wedi llamu ymlaen ers pleidlais 1979 ar ddatganoli. Y newid mwyaf a ddigwyddodd yn ystod yr hanner canrif diwethaf yw twf democratiaeth Gymreig. Hanner can mlynedd yn ôl doedd gyda ni ddim Swyddfa Gymreig; heddiw mae gyda ni Gynulliad, a Llywodraeth Cymru. Ond mae yma eironi mawr!

Tra bod Cymry Cymraeg wedi chwarae rhan ganolog yn yr ymgyrch i sicrhau y sefydliadau a’r hawliau hyn, y ffaith yw nad ydyn ni wedi eu defnyddio a gellir ystyried hyn yn fethiant mawr. Er enghraifft, fe enillwyd Deddf Iaith ond beth am y cynnwys? Yr hyn sy gyda ni yw deddf gymhleth ac aneffeithiol! 

Yr hyn sydd ei angen nawr yw difrifoli ystyried a chynllunio sut y gallwn ni ddefnyddio’r sefydliadau yn ni wedi eu creu. Mae lobïo wedi dod yn elfen bwysig mewn gwleidyddiaeth. Mae’n digwydd ym myd addysg, iechyd, cynllunio – pob math o feysydd. Ond o fewn y meysydd hyn mae angen lobïo ar ran y Gymraeg!

Yn hyn o beth bu sefydlu Dyfodol yn ddiweddar yn gam pwysig ymlaen. Ond mae angen rhagor o adnoddau dynol er mwyn ymgyrchu ac mae gan y to hŷn gyfraniad pwysig i’w wneud. Rhaid i ni stopio beio pobl eraill, meddai. Os na fynnwn ni’r gwasanaethau yn Gymraeg a’u defnyddio, ein bai ni fydd e os mai diflannu wnân nhw!”

Bryan James yw golygydd Y Dinesydd.

Am fwy o wybodaeth am Gronfa Glyndŵr, cliciwch yma.

Llun: yr Athro Richard Wyn Jones (chwith) a Gerald Latter, Cadeirydd Cronfa Glyndŵr gyda Mrs Gwenda Williams, gweddw y diweddar Barchedig Ifan R Williams, un o Is-lywyddion Anrhydeddus cyntaf y Gronfa.

 

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Siôn Jobbins yn dweud:

Lot o sens gan Richard Wyn Jones a da iawn gweld cydnabyddiaeth i Gronfa Glyndwr.

Sefydwyd Cronfa Glyndwr gan Trefor Morgan a sefydlodd Ysgol Glyndwr yn 1968 – yr unig uwchradd lle roedd pob pwnc yn cael ei ddysgu yn y Gymraeg.

Mae ganddom lawer i’w ddiolch i’r dyn hynod o ddewr yma (gan gynnwys Bryan James) a hefyd am safiad dewr Gwenda ac Ifan Williams a’i merched Elin a Siwan oedd yn un o’r llond dwrn a fynychodd Ysgol Glyndwr ym Mhen-y-bont.

Mae ein dyled ni i gyd i bobl egwyddorol, ddewr, cryf fel hyn. Dydym ni ddim yn gwybod ei hanner hi heddiw am ba mor filain a gwrth-Gymraeg oedd elfennau o’r Blaid Lafur yn yr 1960au. Yn anffodus, gweld peth o’r teimladau gwrth-Gymraeg yma yn yr ymgyrch i gael ysgol Gymraeg i Grangetown eleni.

Mae gen i erthygl ar Trefor Morgan, syfaenydd Cronfa Glyndwr, yn fy llyfr ‘The Phenomenon of Welshness I – how many Aircraft carriers would an independent Wales have?’ http://www.carreg-gwalch.com/product/phenomenon_of_welshness_the/

Teimlais i’n wylaidd iawn wrth ddysgu ac ysgrifennu am hanes sefydlu’r Ysgol ac am bobl fel Gwena, Ifan a Trefor a’i wraig Gwyneth.