Chwys, dagrau a gwaed – tri chynhwysyn hollbwysig wrth fynd ati i greu pryd blasus yn y gyfres goginio Pryd o Sêr. Ar ôl mynd benben â’i gilydd i goginio pryd o fwyd i gwsmeriaid oedd yn talu yn y rhifyn diwethaf, bydd y ddau dîm yn wynebu her arall nos Sul fydd yn eu gwthio i’r eithaf.
Yn gobeithio arwain y tîm glas i fuddugoliaeth mae’r gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Catrin Heledd, o Bentyrch yng Nghaerdydd. Hefyd yn ei thîm mae’r tenor adnabyddus Rhys Meirion, yr actores Marged Esli, a’r cyflwynydd Lisa Gwilym.
Capten y tîm oren yw’r gantores, actores ac awdur Non Williams. Mae’r cyflwynydd Trystan Ellis-Morris, y gohebydd a’r cyn-chwaraewr proffesiynol rygbi Rhodri Gomer-Davies, a’r comedïwr Tudur Owen yn cystadlu yn nhîm Non.
Mae’r timoedd wedi bod yn coginio a chystadlu yn erbyn eu gilydd yn yr Hen Lyfrgell ynghanol Caerdydd.
Pan ofynom ni wrth Catrin pam ei bod hi wedi penderfynu cystadlu eleni, meddai “dwi isio profi i fi’n hun bod ‘na gogydd yn cuddio yn fy nghrombil i… yn rhywle!”
Yma, mae’r capteiniaid, Non a Catrin, yn esbonio sut brofiad yw coginio dan sylw’r camerâu.
Sut brofiad oedd gweithio mewn timoedd i baratoi pryd o fwyd i westeion oedd yn talu?
Non: Ces i’n synnu faint wnaeth pawb gymryd y peth o ddifri’. Os roeddwn i’n gwneud un peth bach o’i le, roeddwn i’n mynd yn andros o flin efo fy hun fel tasai hi’n ddiwedd y byd. Pan rwyt ti dan bwysau, fel roedden ni yn y gegin, ti’n gwneud y camgymeriadau mwya’ twp.
Catrin: Roeddwn i’n disgwyl y bydden nhw’n ein cyflwyno ni i goginio’n araf bach! Pan fo pobl yn talu am eu bwyd dyw methu ddim yn opsiwn. Mae’r dasg wedi ein herio ni i ddatblygu sgiliau newydd.
Ar ddiwedd y bennod gynta’ cawsoch chi eich penodi’n gapteiniaid. Wnaeth hyn eich synnu chi?
N: Do, fe wnaeth o synnu fi – dwi ddim yn gogydd arbennig, a dwi ddim yn arweinydd naturiol. Dwi’n teimlo dan bwysau gan fod Caryl (Parry Jones, cyfnither Non, mae’r ddwy’n cyd-ysgrifennu’r gyfres gomedi Anita) wedi arwain ei thîm hi i fuddugoliaeth y llynedd. Ond dwi’n rili mwynhau cwmni fy nhîm i, mae’r tîm oren fel plant bach drwg!
C: Do, oherwydd ‘mod i’n meddwl bod rhai eraill o’r cystadleuwyr wedi cael tipyn o hwyl arni. Roedd hi’n anodd wrth ddewis aelodau ein timoedd, ond dwi’n andros o hapus gyda fy nhîm i! Tîm glas i ennill!
Ydych chi’n poeni am yr her fawr ar ddiwedd y gyfres i goginio i 80 o bobl sydd wedi cael eu gwahodd i noson elusennol Clwb Rygbi Cymry Caerdydd?
C: Rwy’n disgwyl bydd yr her yn dipyn mwy na’r ry’n ni wedi’i wynebu hyd yn hyn. Roedd cogyddion proffesiynol yn ein helpu ni ar y dechrau, ond ni fydd yn gyfrifol am y coginio i gyd erbyn y diwedd.
N: Beth sy’n fy mhoeni i fwya’ ydy bod cymaint o fwyd i’w baratoi. Dwi wedi arfer coginio i dri o blant, felly mae coginio i 80 o bobl yn syniad hollol estron.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwya’ am gystadlu ar Pryd o Sêr?
C: Rwy’n joio gweithio fel rhan o dîm. Mae newyddiadura yn gallu bod yn unig ar adegau, ac er ein bod ni wedi cael ein gwahanu mewn i ddau dîm, rydyn ni i gyd yn gefnogol o’n gilydd.
N: Dwi’n mwynhau’r ffaith bod pawb yn yr un cwch! Ar y diwrnod cynta’ roedden ni gyd yn edrych ar ein gilydd yn ansicr, a phawb yn dweud eu bod nhw’n hopeless.
Pwy yw’r cystadleuydd mwya’ cystadleuol yn y gegin?
N: Rhys Meirion – yn hawdd! Mae Rhys ar dân eisiau ennill pob sialens, ac mae o’n andros o hapus bob tro mae fy nhîm i yn colli. Mae Rhys a Tudur Owen yn tynnu ar ei gilydd eitha’ dipyn, maen nhw’n brwydro am sylw gan ledis aeddfed Cymru!
C: Mae Rhodri Gomer-Davies yn gystadleuol iawn. Siŵr bod hyn yn anochel oherwydd ei gefndir fel cyn-chwaraewr rygbi proffesiynol, ond mae o hefyd yn gogydd da iawn.
Ydy coginio yn rhywbeth gall pawb ei wneud?
C: Ydy, mae dilyn rysáit yn rhywbeth gall pawb ei wneud, a does dim angen coginio rhywbeth cymhleth iddi fod yn flasus. Mae hefyd yn bwysig bod pobl yn dod i adnabod beth sy’n mynd mewn i’w bwyd. Rydyn ni gyd wedi mwynhau’r broses – hyd yn hyn!
N: Mae o’n brofiad gwahanol i bawb. Mae rhai yn hapusach yn cymryd eu hamser ac yn dilyn rysáit, a dwi’n genfigennus pan mae coginio’n dod yn naturiol i rywun.
Non, eich gŵr chi, yr actor Iwan John, oedd pencampwr Pryd o Sêr 2013 – ydy hyn yn rhoi pwysau arnoch chi yn y gyfres hon?
N: Mae cystadlu ar Pryd o Sêr yn her bersonol i fi. Mae’r ffaith bod Iwan wedi ennill cyfres gynt yn rhoi pwysau arna i, ond gen i mae’r pwysau’n dod, nid Iwan! Mae o wedi bod yn brolio ers iddo ennill, felly os byswn i’n ennill byddai hynny’n sioc fawr iddo fo. Ond, ar y llaw arall, falle wneith o wneud imi goginio’n amlach!
Pryd o Sêr: Bob nos Sul, 7.30, S4C. Hefyd, dydd Mercher 3.00, S4C. Isdeitlau Saesneg. Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill. Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C
sylw ar yr adroddiad yma