A fydd annibynniaeth yr Alban yn gadael Cymru’n wannach?

12 Medi 2014

Gan Huw Onllwyn

Byddwn i’n amcangyfrif bod dros 99% o ddarllenwyr Pobl Caerdydd yn cefnogi annibyniaeth i’r Alban.  Fel person profoclyd, sy’n hoffi ‘siglo’r cwch’, fe gytunais i baratoi erthygl i gyflwyno’r ddadl yn erbyn annibyniaeth.  Dyma fi, felly, yn fy hoff rôl, sef y ‘devil’s advocate’. Nid wyf, o reidrwydd, yn cytuno ‘da popeth sy’n dilyn – ond mae’r isod yn sicr yn bwyntiau sy’n berthnasol i’r refferendwm.  Felly, dyma obeithio y bydd yr erthygl yma’n arwain at ddadl go dda…

Gallaf weld yn hawdd apêl annibyniaeth. Mae’n darparu ‘galwad i’r gâd’ emosiynol, ysbrydol a rhamantus – sy’n galluogi pleidleiswyr yr Alban i roi llais i’w balchder mawr yn eu gwlad, heb boeni yn ormodol am faterion ymarferol.

Bydd rhaid bwrw pob pleidlais, fodd bynnag, gan gofio y bydd annibyniaeth yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol. Mae perygl y bydd yr Alban yn deffro ar y pedwerydd ar bymtheg o Fedi gyda phen tost difrifol – a chryn dipyn o ‘buyer’s remorse’.

Rwy’n dweud hyn oherwydd ei bod yn ymddangos i mi fod Mr Salmond yn gwerthu ‘pig in a poke’ i bobl yr Alban. Pa arian fyddant yn ei ddefnyddio? Pwy fydd yn rheoli eu cyfraddau llog (ac, yn ei dro, economi’r Alban)? Beth fydd telerau ac amodau eu haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd? Beth fydd yr aelodaeth hwnnw’n ei gostio iddynt? A fydd busnesau yn symud eu hunain – a’u swyddi – allan o’r Alban (mae’r banciau eisoes wedi datgan eu bod am symud i Lundain)? A fydd eu taliadau morgais yn cynyddu? Pa gyfraddau llog fydd angen i Lywodraeth yr Alban eu talu er mwyn benthyg arian? Faint o Brif Weithredwyr ychwanegol fydd yn derbyn cyflogau hael, i’w talu gan drethdalwyr yr Alban, er mwyn rheoli cyrff newydd a fydd yn dyblygu gwaith cyrff sydd ar hyn o bryd yn gweithredu ledled y DU?

Wrth i Mr Salmond wfftio’r risgiau hyn, mae’n cyfiawnhau’r achos dros annibyniaeth wrth gyfeirio at yr angen i’r Alban allu gwneud ei benderfyniadau ei hun. Ond mae’r Alban yn gallu gwneud hynny nawr (addysg, iechyd, amaethyddiaeth, yr economi, y celfyddydau, yr amgylchedd ayb). Gyda mwy o ddatganoli (Devo Max), gallai wneud hyd yn oed mwy.

Fel mae’n digwydd, rwy’n mwynhau ambell i gambl fach. Er enghraifft, rwy’n hapus i fetio pum punt ar y Grand National. Ond mae’r SNP yn gofyn i’r Albanwyr i fetio’u dyfodol cyfan – a dyfodol eu plant – ar gambl, mewn gêm lle nad yw’r rheolau’n glir ac lle na wyddant beth yw’r siawns o ennill.

Galwch fi’n sinig, ond nid wyf yn ymddiried yn llwyr mewn unrhyw wleidydd – a rwyf yn darllen pob maniffesto gyda phinsiad o halen. Fodd bynnag, roedd angen i mi brynu bag enfawr o halen cyn darllen gweledigaeth yr SNP am Alban annibynnol. Yno, fe ddiddymir pob tlodi; bydd swyddi ardderchog ar gael i bawb; bydd y wladwriaeth les yn darparu gwelyau-plu i bawb ac, ar yr un pryd (yn wyrthiol), bydd trethi yn disgyn fel y gall fusnesau ffynnu. Bydd olew yn para am byth; bydd pawb yn byw hyd wythdeg mlwydd oed a bydd pob plentyn yn gadael yr ysgol yn athrylith. Yn rhyfedd iawn, mae modd i Lywodraeth yr Alban ddelio ‘da llawr o’r materion yma ar hyn o bryd, ond rwy’n cymryd eu bod wedi penderfynu aros i fod yn wlad annibynnol cyn palu ‘mlaen â’r gwaith.

Dywedir wrthym gan Mr Salmond fod yr Alban yn wlad gyfoethog iawn – ac yn gallu byw yn hapus heb weddill y DU. I mi, mae hyn yn swnio fel gŵr cyfoethog yn gadael gwraig dlawd, gan gymryd ei holl arian gydag ef.  Mae hyn fel petai Mr Salmond yn dweud ‘Fy mhêl i yw hon – a ‘dwi’n mynd â hi adref’. Wel, dyma ddiolch yn fawr am hynny, Alex, gan eich cefndryd Celtaidd tlawd yng Nghymru. Ai dyma’r arweiniad y mae’r Alban am ei roi i weddill Ewrop? Sef y dylai’r rhanbarthau cyfoethog ysgaru eu hunain oddi wrth eu cymdogion tlawd, codi’r bont – a chodi dau fys ar y gweddill ohonom? A fydd rhannu’n wledydd cyfoethog a thlawd yn gwneud Ewrop yn wannach neu’n gryfach? Rwy’n credu ei fod yn gêm beryglus.

Nid oes unrhyw wlad yn berffaith. Gall pob un ohonom wella – ac nid yw record y DU yn ddilychwyn. Ond, er mwyn popeth, nid ydym yn wladwriaeth ‘pariah’. Rydym yn byw mewn gwlad ddemocrataidd. Mae gennym rhyddid barn a rhyddid crefyddol. Mae gennym gyfreithiau sy’n sicrhau cydraddoldeb i bawb. Mae gennym safon byw y gall y rhan fwyaf o’r byd wneud dim mwy na breuddwydio amdano. Fel Deyrnas Unedig, fe lwyddom i ysgwyddo’r beichiau a wynebwyd gennym yn hanesyddol (pwy all anghofio’r ail rhyfel byd?) – ac i ysgwyddo’r beichiau a wynebwn heddiw. Rhannu’r baich yw’r polisi yswiriant gorau gawn ni fyth, wrth i ni wynebu’r risgiau a fydd yn ein wynebu yn y dyfodol.

Nid yw portread yr SNP o’r DU fel system sy’n gweithio er budd Llundain yn unig yn dal dŵr. Wedi’r cyfan, mae aelodau seneddol o bob rhan o’r DU yn chwarae rhan yn y gwaith democrataidd o graffu ar waith y Llywodraeth ac o ddatblygu polisïau a deddfwriaeth. Pe byddem yn dilyn meddylfryd yr SNP, byddai dim ond yn fater o amser cyn i’r Outer Hebrides hawlio annibyniaeth, ar y sail bod y system yn yr Alban yn gweithio er lles y dosbarthiadau llywodraethol yn Glasgow a Chaeredin yn unig.

A’i effaith ar Gymru? Byddai’n gadael Cymru yn wannach – heb ein ffrindiau Celtaidd yn yr Alban yn gweithio gyda ni, er mwyn hyrwyddo’n buddiannau â Llywodraeth y DU. Ac hefyd, i’r rheini nad sy’n ffansio gweld y Ceidwadwyr wrth llyw y DU am byth, fe fydd colli 40 o aelodau Llafur yr Alban ychydig yn broblematig.

Wrth gwrs, yng Nghymru, rydym yn gwylio’r refferendwm o’r cyrion. Mae’n ymddangos i mi bod yr apêl emosiynol o annibyniaeth yn heintus – ond bod yr Albanwyr yn cael eu gwahodd i bleidleisio am newid aruthrol, lle nad yw’r atebion sydd eu hangen arnynt wedi eu darparu. Mae’n amlwg hefyd bod gwleidyddion Llundain wedi bod yn hynod drahaus yn disgwyl y byddai’r Albanwyr yn pleidleisio ‘Na’

Mae’r ‘alwad i’r gâd’ emosiynol, sy’n galluogi pleidleiswyr yn yr Alban i roi llais i’w balchder yn eu gwlad, yn demtasiwn. Ond nid yw’n amser i chwarae gemau di-hid. Mae dyfodol economi yr Alban, a swyddi yn yr Alban, yn y fantol.  Ai gwleidydd heb ormod o egwyddor yw Mr Salmond, fel llawer o wleidyddion?

Pe byddwn yn byw yn yr Alban, fe fyddwn yn deall pam y byddai pobl yn dweud ‘dim diolch’, ar hyn o bryd – ac am drafod annibyniaeth gyda mwy o’r atebion yn hysbys. Mae dweud ‘ie’ yn naid i’r tywyllwch, heb rwyd ddiogelwch. Ond byddai modd dadlau nad yw Llundain wedi darparu digon o oleuni ‘chwaith!

Pob lwc i’r Alban!

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma