Maniffestos Cymru

23 Ebrill 2016

Maniffestos Cymru

Cyflwyniad

Mae’r adeg mwyaf cyffroes yn amserlen cymdeithasol, diwyllianol a gwleidyddol Cymru wedi cyrraedd!

Yep! Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru!

A oes unrhyw beth mwy cyffroes erioed wedi digwydd yn holl hanes y byd? Dyma, wrth gwrs, yw’r prif sgwrs ar bob aelwyd, ym mhob tafarn ac ym mhob bwyty ar hyd a lled Cymru. Yn wir, rwyf innau mor gyffroes nid wyf wedi cysgu ers wythnos – wrth i mi feddwl am eiriau doeth ac ysbrydoledig ein harweinwyr gwleidyddol disglair.

Gwn, fodd bynnag, fod ambell un o ddarllewnyr Pobl Caerdydd yn ei chael yn anodd i gynhyrfu gymaint a minnau am y daeargyn gwleidyddol sydd ar fin ein taro. Efallai fod gennych flaenoriathau eraill, mwy cyffroes, megis planu tatws, dilyn Masterchef, neu gwylio paent yn sychu.

I’r darllenwyr hynny, ‘rwyf wedi mynd i’r drafferth o ddarllen maniffestos y prif bleidiau ac, yn yr erthygl hwn, rwy’n cyflwyno i chi fy marn amdanynt. Nid wyf, gyda llaw, yn aelod o unrhyw blaid.

Nid wyf, ychwaith, yn arbennigwr yn y maes. Dyma, yn syml, fy ymateb i’r maniffestos fel dyn a fydd (fel chi) yn mynd i bleidleisio ar y 5ed o Fai.

Ac, wrth gwrs, fy marn i sydd isod. Nid yw o reidrwydd yn cynrychioli barn Pobl Caerdydd na unrhyw berson arall sy’n cyfrannu at y wefan.

Wrth edrych ar y maniffestos, rwyf wedi chwilio am:

  • manylder: beth yn union sy’n cael ei gynnig, faint o wybodaeth a roddir i ni?
  • dogfennau cynhwysfawr: a yw’r pleidiau wedi meddwl am yr holl feysydd polisi sy’n bwysig i’r etholwyr?
  • costau: a ydynt wedi dweud wrthym faint fydd y cyfan yn costio – a sut y gellir talu amdano?
  • gweledigaeth: a ydynt wedi llwyddo i greu darlun o Gymru fel gwlad cyfoes a chyffroes, sy’n edrych ymlaen i’r dyfodol yn hyderys? A oes gan y blaid y syniadau a’r awydd i greu bywyd gwell i drigolion Cymru?
  • parch: a yw’r maniffesto yn cymryd yr etholwyr o ddifrif?

Rhoddaf sgor allan o ddeg ar gyfer pob elfen, er mwyn creu sgor cyfanswm i bob maniffesto.

‘Rwyf hefyd yn ceisio nodi ble mae pob plaid yn gorwedd ar y sbectrwm wleidyddol

Ond, yn gyntaf:

Sut mae mynd ati i sgwennu maniffesto?

Er mwyn sgwennu eu maniffestos mae’r pleidiau yn gwario penwythnos neu ddau mewn gwesty rhad ac aniddorol, mewn rhan anhysbus o Gymru.

Nid oes unrhyw un am fod yno, gan fod cymaint ohonynt yn casau eu gilydd ar ol blynyddoedd o ddadlau a cwympo mas. Mae’r digwyddiad yn ffocysu meddyliau’r gwleidyddon ar faint mae nhw’n casau’r cyhoedd, hefyd, gan nad ydym yn gwerthfawrogi eu talent a’i gweledigaeth. Dyma’r adeg, hefyd, pan gallwn eu gwneud yn ddi-waith – felly mae eu casineb atom yn cynyddu.

Er mwyn creu’r maniffestos defnyddir flip-charts, post-it notes a felt pens sydd ddim yn gweithio’n iawn.

Y cam cyntaf yw i adnabod y prif faterion gwleidyddol. Dyma nhw: iechyd ac addysg.

Wedyn mae angen meddwl am ychydig er mwyn adnabod mwy o feysydd, megis yr economi, amaethyddiaeth a thai. Wedyn mae ambell i wleidydd yn cynnig mwy o syniadau, megis anghenion hen bobl, ond mae gweddill y gwleidyddion yn eu hanwybyddu gan y bydd trafod y pethau hynny yn ymestyn hyd y cyfarfod – a ‘does neb yn darllen y maniffestos, eniwei.

Erbyn bore dydd Sul mae’r rhan fwyaf o’r aelodau wedi diflasu’n llwyr – ac am i’r holl beth orffen. Yn anffodus, fe fyddent wedi gwahodd arbennigwyr i ymuno a nhw – ac fe fydd pob arbenigwr wrth ei fodd yn helpu creu’r maniffesto, gan ei fod yn gyfle iddynt siarad am oriau am eu hoff bynciau – a sicrhau fod y maniffesto yn cynnwys llwyth o addewidion am eu meysydd hwy.

Tra eu bod yn siarad am oriau, fe fydd y gwleidyddion proffesiynol yn edrych ar Twitter a Facebook ar ei iPhones tra’n ychwanegu’r arbennigwyr i’r rhestr o bobl mae nhw’n eu casau.

Y nod yw i greu maniffesto sydd yn cynnig gweledigaeth cyffroes, sydd yn llawn syniadau arloseol a sydd a’r potensial i wella ansawdd bywyd pobl Cymru. Ond, yn dilyn cyfaddawdu, dadlau a diffyg adnoddau ac amser i feddwl yn greadigol, fe fydd pawb yn hapus i gyheoddi maniffesto sy’n llawn geiriau megis ‘Rydym yn gefnogol iawn i athrawon, doctoriaid, ffermwyr, nyrsus a phawb sy’n byw yng Nghymru – ac rydym am wneud pethau hyfryd a gwario mwy ar bopeth’.

Weithiau fe fydd rhywun sy’n gweithio fel gohebydd gwleidyddol, yn cysylltu, er mwyn gofyn am gynlluniau a dyheadau’r blaid ar gyfer y Cynulliad nesaf. Yr hyn mae’r gwleidyddion am ddweud wrthynt yw ‘f*** off you jumped up little sleaze ball’ – ond mae eu swyddogion PR (y mae’r gwleidyddion hefyd yn eu casau) yn eu gorfodi i ddweud pethau fel ‘Rydym wrthi’n creu gweledigaeth arloseosol a gwych gan mai ni yw’r unig blaid sy’n deall beth sydd angen ei wneud.’

Yr unig adeg y mae’r gwleidyddion yn cyffrou rhwyfaint yw pan ddaw’r amser i gytuno ar enw’r maniffesto. Bryd hynny fe fydd y ddadl rhyngddynt yn para o leiaf hanner diwrnod. Yn y pendraw, arweinydd y blaid fydd yn dewis yr enw ac fe fydd pawb yn casau ei gilydd ychydig yn fwy, gan nad oedd ei henw ar gyfer y maniffesto wedi ei dderbyn.

Mae pawb yn gadael y gwesty aniddorol a mynd adref yn eu ceir Ffrengig ac Almaeneg, yn casau pawb arall – a’r byd yn gyffredinol. Gyda’r nos, fe fyddent yn breuddwydio mai nhw yw arweinydd y blaid a’u bod yn arwain Cymru’n llwyddianus iawn – ac yn agor ffatri enfawr newydd cwmni Apple yn eu hetholaeth.

Beth sydd yn y maniffestos…?

Llafur: Gyda’n Gilydd Dros Gymru

http://www.gydangilydddros.cymru/darllen_maniffesto

Mae hwn yn edrych fel petai wedi ei sgwennu ar gefn pecyn o sigartes. Pam? Wel, achos fe all y cynnwys ffitio ar gefn pecyn o’r fath.

Ar gyfer y 5 mlynedd nesaf o lywodraeth, mae’r blaid wedi llwyddo i gyhoeddi 23 tudalen yn unig. Yn waeth na hynny, dim ond 13 tudalen sy’n cynnwys brawddegau llawn a pharagraffau (mewn ffont enfawr). Mae’r gweddill yn cynnwys lluniau ac ambell i flwch gyda ‘chydig o eriau ynddynt.

Felly, dyna i chi ychydig dros 2 dudalen am pob blwyddyn o lywodraeth. Mae’n amlwg fod aelodau’r Blaid Lafur yn casau ei gilydd cryn dipyn – a fod eu cyfarfodydd mewn gwesty anghysbell wedi gorffen yn gynnar. Ond, o edrych ar yr aelodau, gallaf ddeall hynny’n hawdd.

Gan mai etholaid ar gyfer ein Cynulliad yw hwn, mae’r blaid, wrth gwrs, wedi cychwyn y ddogfen efo cyflwyniad gan Nia Griffith AS, gan ei fod yn bwysig derbyn geirda gan aelod o Senedd go iawn, er mwyn cynnig unrhyw hygrededd i’r ddogfen.

Mae’n cynnwys datganiadau doniol megis ‘As a country we have punched above our weight on the world stage’. Yip, gallaf ddychmygu Obama, Merkel, Hollande a Cameron yn dweud wrth ei gilydd ‘But it’s important to know what the Welsh think about this…’

Prif neges Carwyn yw na ddylwn ddewis arweniwyr gwleidyddol eraill oherwydd: ‘The momentum we see in our improving infrastructure and public services can only be derailed by a change in political direction’. Felly, dylid pleidleisio dros Llafur achos bydd unrhyw blaid arall yn difetha popeth. Hynny yw, mae’n amhosib (yn ol Llafur) i unrhyw blaid arall wella isadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. I mi, dyma’r hyn a elwir yn ‘logic failiure’.

Mae’r ddogfen yn son am y gwaith a wneir gan y blaid er mwyn creu mwy o swyddi. Mae’n ein hatgoffa fod Llywodraeth Llafur yng Nghymru wedi creu 10,000 o swyddi ychwanegol drwy mewnfuddsoddi – a 15,000 o swyddi i bobl ifanc a oedd yn ddi-waith.

Nid yw’n glir os ddaru unrhyw un o’r 15,000 di-waith dderbyn un o’r 10,000 o swyddi mewnfuddsoddi. Hyd yn oed os na, dyma gyfanswm o 25,000 o swyddi newydd wedi eu creu yn ystod llywodraeth Llafur Cymru. Ond, pe fyddwn wedi derbyn 5% o’r 2 miliwn o swyddi newydd mae David Cameron yn son amdanynt, yna fe fydd Cymru wedi derbyn 100,000 o swyddi newydd. Beth sydd o’i le? A yw Carwyn wedi anghofio son am 75,000 o swyddi newydd yn ei fanifesto, neu a yw’r blaid wedi gwneud yn drychunebys o wael yng nghyswllt creu swyddi newydd?

Dyma wahoddiad iddo fe ymateb.

Mae’n son, hefyd am y ffaith iddynt gyflawni gwerth £5.6 billion o brosiectau isadeiledd ar draws Cymru. Swm enfawr o arian. Da iawn! Ond pa brosiectau? Pwy ddaru eu harwain? O ble ddaeth yr arian? Dyma fwlch enfawr yn y maniffesto, sy’n adlewyrchu’r ffaith iddo gael ei sgwennu ar gefn pecyn sigarets.

Un polisi arfaethedig fydd dod i ben a’r hawl i brynnu eich ty cyngor. Ond beth yw breuddywd pob teulu? Yip. Cael berchen ty ei hunain. Mae hwn yn edrych fel cangymeriad gwleidyddol i mi – a fydd yn ail-greu sink estates tai cyngor, lle does gan neb gobaith i symud ymlaen a berchen eu cartref.

Fe fydd llywodraeth Llafur yn diddymu peth o ddeddfau llywodraeth Prydain o ran yr undebau. ‘Rwy’n cymryd y bydd hyn yn meddwl y bydd undebau Cymru’n fwy grymus (fe fydd yn haws i fynd ar streic, er enghraifft). Hmmm….pe fyddwn yn berchen busnes ac yn dewis rhwng Cymru a Lloegr fel lle i ffuddsoddi, rwy’n meddwl y bydd hwn yn gyrru’r swyddi newydd i gyferiad Lloegr.

Own-goal, Carwyn?

Gwaith, hefyd ar zero hours contracts. Gall hyn ddod a sawl cwmni i ben (megis cwmniau sy’n cynnig gwaith tymhorol neu lle nad oes sicrwydd o ran faint o gwsmeriaid fydd ganddynt o ddydd i ddydd). Eto, felly, llai o swyddi.

Mae’r blaid yn dal ati i wrthsefyll yr hyn a elwir yn ‘preifateiddio’r gwasanaeth iechyd’. Yr hyn sydd yn bwysig i mi, fodd bynnag, yw’r angen i’r gwasanaeth fod yn rhad ac am ddim i’r rheini sydd ei angen. Felly, os gall cwmni preifat gynnig gwasanaeth gwell na’r NHS, ar gyfer math penodol o wasnaeth, pam ddim rhoi’r contract i’r cwmni hwnw i wneud y gwaith? Mae mynny mai’r NHS sy’n gorfod darparu popeth yn rhy anhyblyg – ac nid yw’n dwyn unrhyw elfen o ‘gystadlu er mwyn gwella’ i fewn i’r system.

Bai Llafur yw hyn i gyd, gan eu bod yn fwriadol drysu ‘preifateiddio’ (sef y cyhoedd yn gorfod talu cwmni preifat am y gofal) efo rhoi contract i gwmni preifat i wneud y gwaith yn well na mae’r NHS yn ei wneud ar hyn o bryd – ond gyda’r gwasanaeth yn aros yn rhad ac am ddim i’r defnyddiwr.

Fel gyda phob adran arall, mae’r maniffesto yn addo gwario mwy ar bopeth – ond heb esbonio sut bydd modd talu am hynny.

Tenau yw’r darn am addysg hefyd – heb llawer o weledigaeth. Braf, er enghraifft, fydd gweld datganiad am ystyried effaith creu ysgolion academi yn Lloegr ac, os ydynt yn llwyddo, i greu system cyffelyb yng Nghymru. Ond mae hynny’n amhosib, wrth gwrs, gan mai polisi’r Ceidwadwyr yw hynny, bellach, a nid oes modd i Llafur ei fabwysiadu, hyd yn oed os byddia’n gwella addysg ein plant

Mae’r blaid am weld miliwn o bobl yn siarad Cymraeg (ond heb ddweud erbyn pryd, neu sut mae mynd o gwmpas y dasg). Mae nhw wedi mabwysiadu polisi Cymdeithas yr Iaith, felly! ‘Rydym yn haeddu clywed llawer mwy am hyn. Sut bydd hyn yn digwydd – a faint o arian fydd i’w fuddsoddi yn y maes?

Mae’r maniffesto hefyd yn cynnwys y frawddeg annealladwy yma: ‘We will amend the Welsh Language Measure so that business and others can invest more in encouraging the use of the Welsh language’. Hoffwn wybod, plis, beth yw ystyr hwnna. A beth yn y byd yw hwn: ‘We will establish a Language Usage Fund and invite business to invest in the future of the language’.

The fag packet strikes again! Sut ydyn ni fod gwneud penderfyniad am gefnogi’r Blaid Lafur efo maniffesto mor denau ac arwynebol? Mae na ‘chydig o wybodaeth ychwanegol ar wefan y blaid – ond ddim llawer. A mae angen chwilio amdano. Ond dyw hynny ddim yn ddigon da, fe ddylai’r cyfan fod yny maniffesto.

Does dim oll yma am beth fydd cost popeth. Mae’r blaid yn gofyn i ni arwyddo ‘blank cheque’ ar ei ran. Mae hyn unai yn amaturaidd, neu yn ein trin fel ffyliaid nad sydd angen gwybod y manylion pwysig yma.

‘Rwy’n meddwl fod y ddogfen arwynebol a byr yma yn adlewyrchu agwedd Llafur tuag at yr etholwyr – a’r ffaith eu bod yn cymryd yn ganiatol mai nhw yw ‘llywodraeth naturiol Cymru’, beth bynnag a wneir ganddynt. Tenau iawn, er enghraifft, yw’r darn am ddatblygu economi Cymru (sef yr elfen bwysicaf o waith unrhyw lywodraeth). Mae hynny’n bryder mawr.

Manylder: 2

Cynhwysfawr: 2

Costau: 0

Gweledigaeth: 4

Parch: 3

Sgor i’r maniffesto: 11 allan o 50.

Sbectrwm wleidyddol: bendefigaeth naturiol adain chwith traddodiadol Cymreig.

Y Ceidwadwyr: Sicrhau Newid Go Iawn i Gymru

http://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/welsh_manifesto_finalwelsh.pdf

Gyda ymddiheuriadau enfawr i’r Ceidwadwyr…efallai i rhai ohonoch sylwi i mi wneud dadansoddiad o’r ddogfen anghywir mewn ferswin blaenorol o’r erthygl hwn. Y rheswm am hyn yw fy mod yn idiot.

Beth bynnag, dyma’r dadansoddiad cywir.

Mae’n amlwg nad yw’r Ceidwadwyr yn casau ei gilydd cymaint a’r blaid Lafur. Maent wedi llwyddo i weithio gyda’i gilydd am ddigon o amser er mwyn creu dogfen sy’n 57 tudalen o hyd.

Dechrau da, felly, ond beth sydd yn y ddogfen?

Wel, mae’n ddogfen digon manwl, sy’n llawn syniadau newydd ar gyfer ysytod eang o fesydd, efo ‘chydig o feirinadu gwaith y Blaid Lafur wrth ein llywodraethu dros y 17 mlynedd diwethaf. Mae nhw’n cyfeirio at methiant y Blaid Lafur i godi safonau yn ein hysgolion, i fuddsoddi digon yn ein system iechyd.

Mae Ceidwadwyr Cymru hefyd wedi troi at Aelodau Seneddol y blaid er mwyn iddynt gymeradwyo’r ddogfen (wele uchod, yng nghyswllt maniffesto’r blaid Lafur). Ond, y tro hwn, maent wedi llwyddo i gynnwys gair gan David Cameron ac Alun Cairns (sef, wrth gwrs, y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru).

Mae hyn yn codi cwestiwn diddorol: sef tybed pam na ddaru Carwyn ofyn i Jeremy Corbyn am eirda?! A yw e’n ystyried Mr Corbyn fel person a fyddai’n gallu niweidio ymgyrch y blaid yng Nghymru? Tybed.

Y neges gyffroes gan y Ceidwadwyr yw fod Llafur ddim ond un sedd i ffwrdd o golli eu mwyafrif o fewn y Cynulliad. Mae nhw hefyd yn cynnig fod y Blaid Lafur wedi rhedeg allan o bwff – ac, o weld maniffesto pitw a pathetig y Blaid Lafur, mae dyn yn tueddi i gytuno ‘da nhw.

Fel byddech yn disgwyl, mae’r Ceidwadwyr yn cychwyn efo’r economi. Mae son yma fod 100k o swyddi sector preifat wedi eu creu yng Nghymru diolch i reolaeth y Ceidwadwyr o economi Prydain. Hei! Carwyn! Mae’r swyddi newydd draw fan hyn!

Mae yma nifer helaeth o syniadau ar gyfer cryfhau a moderneiddio economi Cymru, gan gynnnwys sefydlu Banc Rhanbarthol newydd i helpu busnesau bach. Mae yma son am greu 50,000 o swyddi ychwanegol, cefnogi’r Fargen Ddinesig i Abertawe a mwy. Ac, wrth gwrs, mae yma ddigon am y diwydiant haearn.

Ymhlith llwyth o syniadau o ran trafnidiaeth (gan gynnwys trafnidiaeth cyhoeddus) rwy’n hoffi’r syniad o godi’r terfyn cyflymdra ar yr M4 a’r A55 i 80myh. Dyma i chi blaid sydd wir am sicrhau fod economi Cymru’n shifftio.

Y mwy rwy’n darllen hwn, y mwy mae maniffesto’r Blaid Lafur yn edrych fel dogfen sarhaus, di-feddwl, ffwrdd a hi.

Mae’r ceidwadwyr am newid y drefn, fel fod Croeso Cymru’n gallu hybu diwydiant twristiaeth Cymru fel corff hyd braich, yn hytrach na’i fod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn swnio fel syniad da i mi, gan y bydd yn rhyddhau’r corff o lyffetheiriau niferus y gwasanaeth sifil sy’n greadur llawer rhy araf a risk-averse i wneud y math yma o waith yn effeithiol.

Mae’r Ceidwadwyr yn ein hatgoffa eu bod am weld Cymru’n dod yn genedl treth isel, cyflog uchel, sy’n llai dibynnol ar y wladwriaeth les. Tick. Tick. A tick.

Mae son yma fod Llafur wedi torri £1bn oddi ar cyllid y gwasaneth iechyd yng Nghymru – ac ymrwymiad i fuddsoddi mwy yn y gwasaneth. Eto, mae yma nifer helaeth o syniadau, gan gynnwys sirhau fod modd gweld meddyg teulu gyda’r noas ac ar y penwythnos.

Fe fydd ffocws ar prif achosion marwolaethau yng Nghymru, sef canser, clefyd y galon, dementia (wele fy ymddiheuriad ar gychn y darn yma) a stroc.

Fe fydd y Ceidwadwyr am ‘ariannu ysgolion yn uniongyrchol’, gan roi mwy o reolaeth ariannol i athrawon, rhieni a llywodraethwyr, a gwario mwy yn yr ystafell ddosbarth. hwre. Nid oes yma son uniongyrchol am academiau. Ond, hei, if it looks like a duck – and quacks like a duck…

Fe fydd angen i Estyn wneud hapwiriadau dirybydd. Mae hwn yn gwneud synnwyr i mi, os yw Estyn i weld gwir cyflwr ein ysgolion, fe fydd yn beth da iddynt fedri ymweld ar unrhyw adeg.

No one expects the Spanish Inquisition.

A dyma ymrwymiad i drawsnewid y strategaeth Cymraeg mewn addysg i gynnwys targedau clir a helpu pob plentyn yng Nghymru i deimlo’n hyderus wrth gyfathrebu yn Gymraeg. Hyfryd iawn.

Rhywfaint am addysg uwch – a diwygio cymorth ffioedd dysgu, cyflwyno ‘Ad-daliad Rhent i Fyfyrwyr’, gan gynnig cymorth amserol a chynaliadwy gyda chostau byw prifysgol i israddedigion. Hyn i gydfynd efo ystyried a fydd modd astudio am ambell i radd dros gyfnod o dwy mlynedd. (Rwy’n gallu meddwl am ambell i radd y gellir ei astudio dros gyfnod o bythefnos).

Ac mae yma llawer mwy. 70k o dai newydd. Cadw’r hawl i brynu a defnyddio’r elw i adeiladu mwy o dai cymdeithasol.

A Pwerdy i Ogledd Cymru!

Ychydig am hybu a hyrwyddo’r Gymraeg – ond gyda ffocws ar y Gymraeg mewn busnes – a ddim ymrwymiad i gynnig mwy o arian (sydd ei angen) i gyrff fel y mentrau aiith a’r Urdd.

Wedyn mae son am dorri 20% oddi ar gosta rhedeg Llywodraeth Cymru. Y peryg yma, wrth gwrs, yw fod y prinder staff sydd ym Mharc Cathays eeisoes yn ei gwneud yn anodd i wireddi’r broses o ddatganoli pellach – a darparu gwasanaeth o safon. Heb gwasnaeth sifil Cymreig digon mawr a phroffesiynol, ni fydd modd i ni wneud llawer mwy.

Mae’n debyg fod y Ceidwadwyr wedo cosyio hwn yn rhywle, ond mae bron yn amhosib dod o hyd i’r maniffesto, heb som am unrhyw fanylion pellach.

Problem y Ceidwadwyr, wrth gwrs, yw ei bod yn ceiso enill tir mewn gwlad sy’n draddodiadol sosialaidd ac sy’n dal i gasau Margaret Thatcher am iddi gau’r pyllau glo. Ac, wrth gwrs, does neb yn darllen unrhyw faniffesto.

Manylder: 8

Cynhwysfawr: 8

Costau: 4 (ar gael, mae’n debyg, ond ni allaf ddod o hyd iddynt)

Gweledigaeth: 7

Parch: 9

Sgor i’r maniffesto: 36 allan o 50.

Sbectrwm wleidyddol: adain dde cymhedrol yn ceisio meiddanu’r tir canol heb dynnu sylw i’r ffaith fod ambell i aelod wedi gosod llun o Margaret Thatcher ar wal y lolfa.

Y Democratiaid Rhyddfrydol: Cymru sy’n Gweithio i Chi

http://www.demrhyddcymru.cymru/maniffesto_lawn

Iesgob! 102 o dudalennau – a’r cyfan am Gymru!

Da iawn y Lib Dems!

Mae’n amlwg eu bod wedi bod yn meddwl yn galed – ac efallai wedi dod o hyd i westy ychydig yn neisach yng nghefn gwlad Cymru (sydd, wrth gwrs, yn gadarnle i’r blaid). Neu, fel arall, efallai eu bod yn sylweddoli fod angen ymdrech enfawr y tro hwn, wedi i’r blaid bron a diflannu o Brydain adeg yr etholiad cyffredinol.

Sh*t or bust, fel petai.

A dyma’r maniffesto cyntaf i mi ei ddarllen sydd heb ei gyflwyno gan wleidydd o Loegr. Da iawn Kirsty, am gyflwyno dy faniffesto. Mae hyn yn dangos aeddfedrwydd gwleidyddol a hyder yn ein Cynulliad.

Go girl!

Gosh. Y mwy dwi’n darllen hwn, y mwy dwi’n rili caru Kirsty a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae nhw wedi meddwl yn drlywr ac yn ofalus am bopeth – ac wedi costio’r cyfan. Mae nhw, yn y bon, yn ein trin fel oedolion sydd a diddordeb yn ein glwad a’r hyn y byddai’r Lib Dems am ei wneud pe fyddent yn creu llywodraeth i Gymru.

A dyma ddechrau cadarn, yn delio efo’r elfen bwysicaf, sef yr economi. Mae’n llawn syniadau newydd: gan gynnwys Welsh Development Bank i gynnig cymorth ariannol a chyngor i fusnesau newydd, i helpu gwmniau i allforio ac i ddod o hyd i fuddsoddiad rhyngwladol.

A chynllun hir-dymor ar gyfer ein datblygiad economiadd. Cydnabod rol ymchwil ein prifysgolion. Dysgu sgiliau entreperneriaidd i bobl (syniad gwych i ni Gymru sy’n swil yng nghyswlt cychwyn busnes a gwneud llwyth o arian i’n hunain).

Go Kirsty!

Mae nhw’n edrych ar ein gallu i gysylltu drwy isadeiledd (megis hewlydd a thrafnidiaeth) a hefyd drwy’r byd digidol. Mae hynny’n gwneud synnwyr i mi.

Mae’r maniffesto yn cynnwys syniadau manwl iawn am brosiectau trafnidiaeth. Edrychwch, er enghraifft, ar y cynllun ar gyfer franchise tren newydd a thrafnidiaeth gyhoeddus, ar dudalennau 13 ac 14. Manwl iawn ydynt.

Dyma wers i’r blaid Lafur o ran sut i sgwennu maniffesto. Yn wir, y mwy dwi’n darllen hwn, y mwy crac yr wyf yn myd o ran manifestio’r blaid Lafur.

Mae’n cynnwys cynllun chwe pwynt ar gyfer Port Talbot (yr unig beth sydd ar goll yw unrhyw fwriad i leihau ymhellach costau ynni’r safle).

Mae jest y darn am yr economi yn llawn syniadau newydd a chyffroes. Mae yma weldigaeth. Hwre!

Eto fyth, mae’r darn am addysg yn gynhwysfawr ac yn llawn syniadau. Mae’r Lib Dems hefyd yn fodlon ystyried rhoi annibyniaeth i’n hysgolion o grafangau llywodraeth leol – ond mewn modd mwy gofalus na’r Ceidwadwyr yn Lloegr. Wel da iawn am ystyried newid y system – a ddim, fel Llafur, gwrthod syniadau newydd am rhesymau dogmatig.

Ac mae syniadau’r blaid o ran dysgu pethau megis financial literacy a materion iechyd meddwl i blant yn rhai da, hyd y gwelaf.

Eto fyth, mae’r darn am iechyd yn llawn syniadau, gan gynnwys, wrth gwrs, ffocws y Lib Dems ar iechyd meddyliol.

O ran tai, maent am adeiladu 20,000 mwy o dai fforddiadwy a helpu pobl i brynu eu cartref cyntaf. Rhyw gyfaddawd, felly, rhwg Llafur a’r Ceidwadwyr.

Maent hefyd yn gryf o ran global warming – ond amser a ddengys pa effaith fyddai targedau’r blaid yn eu cael o ran ffyninant economi Cymru. Hynny yw, mae angen sicrhau nad yw’r polisiau yma’n gwneud ein busnesau’n llai cystadleuol i gymharu efo busnesau yn Lloegr a gweddill y byd. Mae hwn yn fater i’w drafod yn fyd-eang, er mwyn sicrhau chwarae teg i bawb.

Mae son yma hefyd am lifogydd. rhywbeth a oedd ar goll o fanifesto’r blaid Lafur.

Mae yma lwyth o fanylion o ran hyrwyddo’r Gymraeg – ond un peth sydd ar goll yw ymrwymiad i ariannu’n well cyrff sy’n gweithio er lles yr iaith, fel y mentrau a’r Urdd.

Gallaf fynd ymlaen ac ymlaen, yn tynnu eich sylw at y gwaith meddwl sydd tu cefn i’r maniffesto yma. Dyma i chi blaid sydd wedi meddwl yn ofalus ac yn drylwyr am anghenion pobl Cymru – ac wedi ceisio creu atebion i’r problemau sy’n ein wynebu. Efallai fod gormod yma i unrhyw lywodraeth ei gyflawni, ond o leiaf mae’n gwneud ymdrech i gyflwyno gweledigaeth cynhwysfawr i’r etholwyr.

Ac, yn olaf, mae’r maniffesto yn cynwys costau’r cyfan.

Trasiedi’r Lib Dems, wrth gwrs, yw political illiteracy y cyhoedd. Bydd bron neb, wrth gwrs, yn darllen y maniffestos. Ac, o’r herywdd, fe fydd bron neb yn gweld beth sydd ganddynt i’w gynnig i ni, yn eu maniffesto cyhwysfawr i Gymru. Fe fydd y penderfyniadau pleidleisio o ran y Lib Dems yn cael eu gwneud ar sail dau prif fater, sef u-turn Nick Clegg o ran ffioedd dysgu – a’r teimlad nad ydynt, fel plaid yn y canol rhwng y chwith a’r dde, byth yn mynd i sicrhau mwyafrif.

Manylder: 8

Cynhwysfawr: 9

Costau: 8

Gweledigaeth: 8

Parch: 10

Sgor i’r maniffesto: 43 allan o 50.

Sbectrwm wleidyddol: dosbarth canol, ychydig bach i’r dde, ond yn poeni am bawb.

Plaid Cymru: Y Newid Sydd ei Angen

http://www.plaid2016.cymru/manifesto

Mae hwn yn fwystfil o fanifesto. Yn 196 o dudalennau (er, gan ei fod yn ddwyieithog, mae’n 98 tudalen mewn un iaith).

Y prif neges, a’r thema, yma yw ‘y newid sydd ei angen’. Hynny yw, y farn ein bod wedi cael hen ddigon ar ol 17 mlynedd o’r Blaid Lafur felly, plis, er mwyn i ni gael newid (os ddim byd arall), pleidleisiwch ar gyfer rhywun arall. Megis Plaid Cymru.

Er fod yma 196 tudalen, mae’r 24 tudalen cyntaf yn llawn geiriau sydd fwy i wneud efo dyheadau cyffredinol (well-meaning wish-lists) na pholisiau pendant. Er enghraifft: ‘Sicrhau mai Cymru fydd y lle mwyaf deniadol yn y DG i wneud busnes’. Wel, gall pawb gytuno ‘da hwnna.

Nid oes cig yn ymddangos ar yr asgwrn nes i ni gyrraedd tudalen 26, pan welwn y blaid yn cychwyn rhannau mwy manwl y ddogfen wrth drafod am (beth arall?) pwerau’r Cynulliad.

Yn hytrach na thrafod yr economi, addysg a iechyd yn gyntaf, mae’r ffocws ar awydd y blaid i greu sefydliadau mwy cryf yng nghyswllt llywodraethu Cymru. Mae pen y daith yn weddol amlwg (sef annibyniaeth – ac fe gyfeirir yn blwmp ac yn blaen at hynny ar dudalen 32). ‘Rwyf wedi sgwennu am hyn eisoes (http://poblcaerdydd.com/pum-cwestiwn-i-adam-price/) ac rwy’n dal i aros am ateb gan Adam Price i fy mhryder y gall Cymru fod llawer yn dlotach ac yn wanach o fod yn wlad annibynol, tra hefyd yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae son am greu Confenswin Cyfansoddiadol ledled y DG, er mwyn ystyried setliad newydd rhwng gwledydd Prydain – ac mae’r maniffesto yn esbonio beth fydd gofynion y blaid yng nghyswllt unrhyw setilad newydd. Nid yw’n glir beth fyddai’n digwydd pe fyddai rhanau eraill o Brydain (megis Lloegr a Llywodraeth y DU) yn gwrthod y syniad.

I bwy mae hyn, felly? Ai dyma’r hyn sy’n poeni gweithwyr dur Port Talbot, neu rhywun sydd methu cael triniaeth meddygol, neu lle i’w blentyn yn yr ysgol leol? ‘Rwy’n amau.

‘Rwy’n meddwl, felly, fod blaenoriaethau Plaid Cymru braidd yn wahanol i flaenoriaethau y rhan fwyaf o’n cyd-Gymru ac, or herywdd, gall hyn wneud i lawer o bobl feddwl ddwywaith cyn bwrw ei pleidlais i’r blaid yma.

Rhaid cofio, wedi’r cyfan, fod y gefnogaeth i annibyniaeth mor isel a 6% (http://blogs.cardiff.ac.uk/electionsinwales/2015/03/05/support-for-welsh-independence-doubles/).

Druan o’r blaid. Mae nhw fel rhywun sydd am wylio S4C tra fod pawb arall am wylio’r X-Factor.

Erbyn i ni gyrraedd tudalen 42 mae’r maniffesto yn dal ati i drafod strwythrau, gan gynnwys strwythur y gwasanaeth sifil yng Nghymru (zzzz). Ac yna, ar dudalen 50 mae son am cynyddu pwerau trethi Llywodraeth Cymru. Wel, fel plaid adain chwith, mae yna beryg y bydd llawer o bobl yn gweld hyn fel dim mwy na cyfle i’r blaid godi mwy o dreth i’w wario ar ei gynlluniau.

Mae son am Drysorlys Cymru a chreu Cynllun Economaidd Cenedlaethol a Chorff Arloesi Cenedlaethol a’r Cynllun Buddsoddiad Isadeiladd Cenedlaethol a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a’r Cwmni Tai Cenedlaethol.

Gyda hyn oll, mae’r maniffesto’n dechrau edrych fel rhywbeth y byddech wedi disgwyl ei weld yn Rwsia cyn i wal Berlin gwympo. Ac mae’r hyn sy’n dilyn yn swnio fel micro-rheolaeth manwl o fyd busnes a diwydiant.

Mae’r blaid wrth ei fodd, hefyd, yn chwilio am bolisiau o dramor i’w mabwysiadu yma (o wlad y Basque – neu Mittelstands a Fraunhofers yr Almaen). Fel dywed rhai, ddim ond i chi wneud rhech yn Efrog Newydd, cewch eich ystyried yn athrylith yng Nghymru.

O ran gwariant cyhoeddus, mae hwn yn eitem diddorol: Mi ddeddfwn i’w gwneud yn orfodol i gyrff  sector-cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael. Caiff ystyriaethau cymdeithasol, cyflogaethol ac amgylcheddol yr un pwyslais â phris wrth ddewis cyflenwydd.

Hyfryd iawn – ond faint mor gystadleuol yw hyn? A fydd y trethdalwr yn cael gwerth am arian – ac a fydd ein busnesau yn gallu cystadlu yn y byd go iawn o gael ei gwarchod cymaint gan arian cyhoeddus?

Mae son am Ddeddf Adnewyddu Rhanbarthol i sicrhau ffyniant ym mhob rhan o Gymru. Sicrhau, cofiwch chi. Dyma blaid sydd am rheoli popeth! Nid wyf yn meddwl eu bod yn credu rhyw lawer mewn grymoedd y farchnad, na gallu’r sector breifat i greu cyfoeth.

Ac wedyn. Iesgob! Mae’r blaid am ddefnyddio arian y trethdalwyr er mwyn sicrhau perchnogaeth gyhoeddus o’r rheilffyrdd. Ac, fe fyddwch byth yn credu hyn, ond maent am sefydlu Rheilffordd Genedlaethol Cymru! Yn ol a ni i’r saithdegau, felly – cyfnod heb gystadleuaeth, digon o streics a gwasanaeth annibynadwy!

Mae’r blaid hefyd am ail-rheoleiddio’r bysiau a chadw Maes Awyr Caerdydd mewn perchnogaeth gyhoeddus. Eto fyth, meicro rheoli a dychwelyd i’r saithdegau!

Un peth diddorol yw cyn lleied yr ydym yn clywed son am y blaid fel ‘plaid asgell chwith, radical’. Tybed, felly, a oes yma rhyw ffenomen fod rhai ohonom yn pleidleiso dros y blaid gan ei fod yn blaid Cymreig a Chymraeg, heb sylweddoli cweit mor asgell chwith a ‘retro’ yw cymaint o’i polisiau? Ai’r blaid yw’r peth agosaf at blaid Marxist / Socialist Republican llwyddiannus sydd gennym yng Nghymru? Dim ond gofyn wyf – ac rwy’n ymddiheuro os wyf wedi camddeall dyheadau gwleidyddol y rheini sy’n bwrw ei pleidlias i’r blaid yma. Fel y soniais, nid wyf yn arbennigwr yn y maes.

Eto fyth o ran yr NHS, mae blaid yn datgan fod ‘ein hymrwymiad ni i’r NHS yn ddiamod ac ni phreifateiddwn ni unrhyw, agwedd er ei waith.’ Hyd yn oed, felly, pe fyddai’n arwain at wasanaeth gwell pe osodir peth o’r gwaith allan ar dendr i gwmni preifat (ond i’w ddarparu i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim). A yw dogma gwleidyddol yn fwy pwysig na gwasanaeth da, tybed?

O ran iechyd, mae’r blaid am gynnal ‘Treial Rheolaeth ar hap ar effeithiau sybsidi ar fwyta ffrwythau a llysiau‘. Hynny yw, mae nhw am sybsideiddio ein bowlen ffrwythau!

Bananas!

O ran yr amgylchedd, mae’r blaid am sefydlu Cwmni Ynni Cenedlaethol, o’r enw Ynni Cymru, ‘i’w redeg fel cwmni ddim-er-difidend, hyd-braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn buddsoddi elw mewn gwell gwasanaeth a phrisoedd i gleientiaid’. Eto fyth, does dim angen grymoedd y farchnad i sicrhau cystadleuaeth a gwella perfformiad, yn ol y blaid. Yn hytrach, gallwn ymddiried yn ein gwleidyddion a swyddogion cyhoeddus i wneud hyn yn wych.

Ie…mae hwnnw’n mynd i ddigwydd.

Ymhlith pethau eraill, fe fydd Ynni Cymru yn cyllido ‘gosod ar raddfa fawr baneli solar ar do pob tŷ, adeilad busnes a phostyn lamp yng Nghymru’. Wel, hwre, fe fydd Cymru’n edrych yn le hardd iawn efo paneli solar ymhobman. Beth os na fyddwch am gael paneli solar ar ben eich ty? A fydd y blaid yn eich gorfodi i’w gosod? A pha effaith gaiff hyn ar ein diwydiant twristiaeth, os bydd paneli solar hyll ymhobman?

Ac mae sawl elfen arall ym mholisiau ynni’r blaid fydd yn arwain at arian cyhoeddus yn ariannu cwmniau creu ynni. Wfft, eto, i’r sector preifat ar farchnad rhydd, felly! Well o lawer bydd risgio arian y trethdalwr.

Hefyd, wrth gwrs, dim ffracio (er i’r Unol Daleithiau elwa o $74 biliwn o’r diwydiant, yn flynyddol (http://www.brookings.edu/blogs/brookings-now/posts/2015/03/economic-benefits-of-fracking).

O ran tai, mae yma ymrwymiad i sefydlu Cwmni Tai Cenedlaethol ‘i fenthyca yn erbyn rhenti i adeiladu cenhedlaeth newydd o gartre  rhent cyhoeddus yng Nghymru heb gyfyngu ar y nifer ond oherwydd galw‘. Ac hefyd fe fydd system o reoli rhent yn y farchnad rentu breifat. Mae’r blaid am rheoli pob elfen o’n bywydau!

Mae yma lwyth o bolisiau am y Gymraeg, gan gynnws sefydlu Asiantaeth Iaith Genedlaethol fel sefydliad annibynnol a fydd yn gyfrifol am hyrwyddo’r iaith (dim ond 5 mlynedd ers i’r blaid ddod a’r Bwrdd Iaith i ben. Make your mind up, Leanne!).

Hefyd, fe fydd y blaid am ‘gynyddu’r gyllideb yn y maes hwn i gynnwys cronfa arloesi a fydd yn anelu at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Mi sefydlwn rwydwaith o ganolfannau Cymraeg ledled Cymru i fod yn fothau i amrywiaeth o weithgarwch cymunedol yn Gymraeg, yn cynnwys y Mentrau Iaith, Cymraeg i Oedolion a gweithgarwch busnes Cymraeg’.

Wel hwre am hynny.

Hyd y gwelaf, nid oes costau gwireddu’r maniffesto wedi eu cynnwys yma.

Dyma, felly, y maniffesto mwyaf adain chwith – gyda’r blaid yn awyddus i meicro-rheoli gymaint o agweddau ein bywyd a phosib. Os ydych yn hoffi llywodraeth mawr, ymyrol, sy’n hapus i wario arian cyhoeddus ar bethau sydd ar hyn o bryd yn risg ariannol i gwmniau preifat, yn hytrach na’r trethdalwr, dyma’r blaid i chi.

Ai dyma’r blaid sy’n adlewyrchu fwyaf y blaid Lafur yn Llundain? Y ffenomen dosbath canol, asgell chwith, sy’n cefnogi Jeremy Corbyn a’i syniadau rhamantus, ond (meddai rhai) anymerferol a pheryglus. Discuss.

Manylder: 6

Cynhwysfawr: 7

Costau: 0

Gweledigaeth: 0 (rhy brawychus i mi)

Parch: 5

Sgor i’r maniffesto: 18 allan o 50.

Sbectrwm wleidyddol: i’r chwith o Jeremy Corbyn.

UKIP: Codi’r Ddraig

http://ukip.wales/2016-manifesto/#1460812639024-090c1631-c74e

Mae yna 48 tudalen yn y maniffesto a llawer o luniau. Tua 35 tudalen o sgwennu, felly.

Asesiad i ddilyn yn fuan.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma